Pwyllgor yn beirniadu’r diffyg brys dros erydu arfordirol

Cyhoeddwyd 11/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn beirniadu’r diffyg brys dros erydu arfordirol

11 Mai 2010

Yn ôl adroddiad newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflymach i reoli erydu arfordirol yng Nghymru.

Nododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, sydd ag aelodau o bob plaid, bod y gwaith o asesu problemau gydag erydu a llifogydd llanw wedi dechrau yn 2007, drwy’r Rhaglen Dulliau Newydd, ond roedd hi’n ymddangos mai ychydig iawn o gynnydd a oedd wedi bod wrth wneud y gwaith hwnnw.

Cynlluniwyd Rhaglen Dulliau Newydd i reoli’r newid radical yn y ffordd mae awdurdodau yn delio ag erydu arfordirol, o’r dull drud o godi amddiffynfeydd a waliau a wnaed gan ddyn i ‘ddull o weithredu ar sail risg’.

Roedd y dull hwnnw’n cydnabod, er bod angen cryfhau amddiffynfeydd mewn rhai ardaloedd er mwyn diogelu seilweithiau hanfodol, er enghraifft cysylltiadau trafnidiaeth, cyfathrebu a gwasanaethau pwysig, byddai angen dull mwy cynaliadwy mewn ardaloedd eraill.

Roedd yr opsiynau’n cynnwys ail-faethu traethau, lle defnyddir tywod i godi uchder y traeth, a’r opsiwn mwy radical o ildio tir o dan reolaeth, sef boddi tir i leihau effeithiau tonnau ar amddiffynfeydd sydd wedi’u codi ymhellach o’r arfordir.

Dywedodd Jonathan Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor: “Er bod y Pwyllgor wedi’i galonogi gan rai o’r polisïau a’r opsiynau a glywodd er mwyn amddiffyn ein harfordir, teimlai’n rhwystredig o glywed am y diffyg cynnydd a wnaed wrth weithredu’r opsiynau hynny.

“Mae yno sefydliadau ac awdurdodau sy’n disgwyl arweiniad gan Lywodraeth Cymru, ond mae amser yn brin, ac mae’r llanw yn prysur droi.

“Ni all pobl sy’n byw ar wastadeddau Gwent ac arfordiroedd Sir Gaerfyrddin a Chlwyd aros a gwylio’r dwr yn llyncu eu cartrefi a’u busnesau. Maen nhw angen gwybod beth sy’n mynd i gael ei wneud i’w helpu.”

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrth y bobl hyn pa rannau o’r Rhaglen Dulliau Newydd yn union a ddefnyddiwyd mewn ffyrdd eraill, a pha gynlluniau sydd yn eu lle.”