Pwyllgor yn dweud bod mynediad parhaus o ran y farchnad i'r UE yn hanfodol i Gymru ar ôl Brexit

Cyhoeddwyd 27/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod mynediad ffafriol i'r farchnad, heb rwystrau tariffau a rhwystrau eraill heb dariffau arnynt, yn cael ei flaenoriaethu yn y trafodaethau a fydd yn digwydd cyn bo hir ar berthynas y DU â'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn y dyfodol.

Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn pryderu am y canlyniadau economaidd andwyol posibl i Gymru os na chaiff mynediad heb rwystrau tariffau a marchnad di-rwystr ei sicrhau ym mherthynas Prydain â'r UE ar ôl Brexit.

Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor bod masnach heb rwystrau tariffau'r UE a rhwystrau eraill heb dariffau arnynt yn flaenoriaeth i lawer o ddiwydiannau yng Nghymru.

Ni chafodd y Pwyllgor ei ddarbwyllo o werth gwahaniaethau rheoleiddiol ar ôl Brexit. Mae'r dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei ymchwiliad yn rhoi blaenoriaeth gadarn i gynnal safonau rheoleiddiol cyfatebol er mwyn sicrhau mynediad ffafriol i'r farchnad dros wahaniaethau rheoleiddiol ar ôl Brexit mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys iechyd, moduro, ffermio a bwyd.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw berthynas ar ôl Brexit yn cynnwys:

  • parhau i gymryd rhan yn Yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a'r Ganolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop;

  • cymryd rhan yn Horizon 2020 ac unrhyw raglenni olynol; a

  • parhau i gymryd rhan yn Erasmus+ a chynlluniau eraill yn ymwneud â symudedd myfyrwyr a chydweithredu.

Yr adroddiad, sy'n cynnwys y farn o Gymru, yw'r cyntaf o ddau adroddiad. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y bydd y farn o Ewrop yn hanfodol wrth lunio'r hyn y gellir ei gyflawni o ran y berthynas yn y dyfodol, a bydd y Pwyllgor yn archwilio hyn fel rhan o ail gam y gwaith.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

"Mae'r manylion yn ymwneud â chysylltiadau Cymru â'r UE yn y dyfodol yn dal i gael eu trafod a dylem fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael inni i lywio'r berthynas honno ar gyfer y dyfodol mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion a buddiannau pobl Cymru.

"Nid rhestr siopa yw ein hadroddiad, yn rhestru'r hyn y dylid eu cynnwys ac na ddylid eu cynnwys yn y cytunded hwnnw ar gyfer y dyfodol. Mae'n cynrychioli'r pryderon sydd gennym ni, a llawer o'n rhanddeiliaid, am y goblygiadau i Gymru pe na bai'r materion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y berthynas â'r UE ar ôl Brexit.

"Rydym yn disgwyl i Weinidogion y DU ystyried y goblygiadau i bob aelod cyfansoddol o'r DU wrth drafod y berthynas ar ôl Brexit, gan gynnwys y materion a godir yn yr adroddiad hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni Brexit sy'n gweithio i bawb."

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol Rhan un: safbwynt o Gymru (PDF, 9 MB)