Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Bydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn cynnal ei gyfarfod nesaf yn Nhy Principality, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin ddydd Iau 1 Mawrth.
Y gwestai arbennig yn y cyfarfod fydd Oddie, ci gwaith o Heddlu De Cymru, a fydd yn arddangos ei sgiliau fel ci sy’n adnabod cyffuriau a ffrwydron, fel rhan o sesiwn dystiolaeth ar docio cynffonau cwn gwaith. Bydd Oddie yn dod gyda’r swyddog sy’n gyfrifol amdano, Rhingyll Alan Hubbard. Bydd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y canlynol:
- Ffederasiwn yr Heddlu;
- Prif Swyddog Milfeddygol Cymru;
- Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (Cymru);
- yr RSPCA;
- Coleg Brenhinol y Milfeddygon.