Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Cyhoeddwyd 01/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Bydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn cynnal ei gyfarfod nesaf yn Nhy Principality, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin ddydd Iau 1 Mawrth. Y gwestai arbennig yn y cyfarfod fydd Oddie, ci gwaith o Heddlu De Cymru, a fydd yn arddangos ei sgiliau fel ci sy’n adnabod cyffuriau a ffrwydron, fel rhan o sesiwn dystiolaeth ar docio cynffonau cwn gwaith. Bydd Oddie yn dod gyda’r swyddog sy’n gyfrifol amdano, Rhingyll Alan Hubbard. Bydd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y canlynol:
  • Ffederasiwn yr Heddlu;
  • Prif Swyddog Milfeddygol Cymru;
  • Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (Cymru);
  • yr RSPCA;
  • Coleg Brenhinol y Milfeddygon.
Bydd y pwyllgor hefyd yn trafod yr ymgynghoriad ar y strategaeth laeth gydag Eifion Hughes o Undeb Amaethwyr Cymru, a Dai Davies, Llywydd NFU Cymru, ac yn ail-drafod taliadau Tir Mynydd. Hefyd, cynhelir trafodaeth ar strategaeth garddwriaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, a fydd yn cynnwys taith dewisol o atyniadau garddwriaethol yr ardd a chyflwyniadau ar Tir Gofal a phrosiectau amgylcheddol yr ardd. Meddai Glyn Davies AC, cadeirydd y pwyllgor: ‘Mae yna lawer o bynciau pwysig ar ein hagenda lawn ar gyfer y cyfarfod yn yr Ardd Fotaneg. Yr wyf wrth fy modd ein bod yn gallu craffu ar y rheoliadau tocio cynffonau ac anffurfio y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno o ganlyniad i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Byddwn yn clywed tystiolaeth o blaid ac yn erbyn hynny cyn inni ffurfio’n barn. Yr ydym eisoes wedi clywed gan yr uwchfarchnadoedd ynglyn â’r strategaeth laeth ac, yn awr, yr ydym yn dymuno clywed barn undebau’r ffermwyr. Yr wyf hefyd yn edrych ymlaen at drafod y strategaeth garddwriaeth, a pha le gwell i gynnal trafodaeth o’r fath nag yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol!’ Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Paxton, Ty Principality, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rhwng 9.00am ac 1.00pm ddydd Gwyl Dewi (1 Mawrth). Manylion llawn a’r agenda I neilltuo sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost at y cyfeiriad canlynol: assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk Wrth wneud hynny, rhowch wybod i’r swyddfa am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych. Ceir cyfarwyddiadau ar sut mae cyrraedd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, gan gynnwys manylion cludiant cyhoeddus, ar wefan yr Ardd fel a ganlyn: http://www.gardenofwales.org.uk/