Pwyllgorau’r Cynulliad yn ailymgynnull i edrych ar yr ymateb i COVID19

Cyhoeddwyd 24/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Yr wythnos nesaf bydd nifer o bwyllgorau allweddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ailymgynnull i edrych yn fanylach ar ymateb Llywodraeth Cymru i Coronafeirws. Ar ran pobl Cymru, bydd Aelodau'r Cynulliad yn holi gweinidogion, swyddogion a sefydliadau eraill am eu gweithredoedd i fynd i'r afael â'r firws a helpu pobl trwy'r amser anodd hwn.

Ym mis Mawrth fe wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol ddilyn cyngor pellhau cymdeithasol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chau'r Senedd, gan atal pob cyfarfod pwyllgor. Aeth y Cynulliad ati i weithredu model 'Senedd Frys' a chychwyn cyfarfodydd llawn 'rhithwir' fel y gallai ACau ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru ar ei hymateb i Coronafeirws.

Wedi treialu'r llwyfan Zoom ar gyfer cyfarfodydd llawn, bydd pwyllgorau perthnasol nawr yn defnyddio'r un dechnoleg er mwyn ymestyn y broses graffu. Bydd dychweliad cyfarfodydd swyddogol Pwyllgorau'r Cynulliad yn caniatáu i'r Aelodau edrych yn fanylach ar waith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r achosion o COVID-19. Bydd y pwyllgorau cyntaf i gwrdd yn canolbwyntio ar iechyd, yr economi, plant, pobl ifanc ac addysg. Gall y cyhoedd wylio'r sesiynau'n fyw ar Senedd.tv. 

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Ers dechrau'r argyfwng Covid mae'r Cynulliad wedi arwain y ffordd drwy alluogi'r gwaith hanfodol o ddwyn y Llywodraeth i gyfrif fynd rhagddo, er gwaetha'r amodau heriol.

"Mae tri Cyfarfod Llawn o'r Senedd Frys eisoes wedi cymryd lle yn rhithiol, a hynny cyn unrhyw senedd arall yn y Deyrnas Gyfunol.

"Yr wythnos nesaf byddwn yn mynd gam ymhellach gyda'r pwyllgorau yn dechrau cwrdd yn ffurfiol unwaith eto er mwyn craffu ar faterion ynghlwm ag argyfwng y Coronafeirws ac unrhyw drafodion brys eraill.

"Dyma waith hollbwysig fydd yn sicrhau fod olwynion democratiaeth Cymru'n parhau i droi mewn cyfnod eithriadol."

Bydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, dan gadeiryddiaeth Dr Dai Lloyd AC, yn canolbwyntio ar faterion pwysig fel offer diogelwch personol (PPE) ar gyfer staff y GIG a gweithwyr allweddol, profion firysau, y pwysau ar wasanaethau a strategaeth Llywodraeth Cymru ar godi'r cyfyngiadau i atal lledu'r feirws.

Bydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, dan gadeiryddiaeth Russell George AC, yn cymryd tystiolaeth ar effeithiau Coronafeirws ar economi Cymru, gan edrych yn arbennig ar fusnes a swyddi Cymru a pha mor effeithiol fu cefnogaeth y llywodraeth. Bydd aelodau yn clywed gan arweinwyr busnes, undebau llafur ac eraill yr effeithir arnynt.

Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dan gadeiryddiaeth Lynne Neagle AC yn edrych ar sut mae plant a phobl ifanc wedi cael eu heffeithio. Bydd aelodau'n archwilio sut mae gwasanaethau perthnasol - gan gynnwys gwasanaethau iechyd, addysg a chymdeithasol - yn ymateb i'r achosion, ac yn edrych ar y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer plant bregus yn benodol.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymrwymo i graffu a chefnogi Llywodraeth Cymru yn yr amser anodd hwn a bydd yn parhau i adolygu'r ffordd y mae'n gwneud hyn i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.