Mae'r Senedd yn ceisio penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei enwebu gan y Senedd i'w benodi gan y Goron cyn 8 Ebrill 2026.
Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn gorff corfforaethol sy'n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy'n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd hefyd yn Brif Weithredwr ac yn Swyddog Cyfrifyddu'r Bwrdd.
Gyda'i gilydd, mae'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithredu o dan ymbarél Archwilio Cymru.
Darganfyddwch rhagor o wybodaeth a ffurflen gais yma.
Dyddiad cau: Hanner nos, dydd Gwener 31 Hydref 2025