Rhagor o fanylion eu hangen ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 20/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/10/2017

​Mae angen rhagor o fanylion ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mynegodd y Pwyllgor Cyllid bryderon ynghylch cynnig y Comisiwn i gynyddu'r gyllideb mewn cyfnod o gynni ar draws y sector cyhoeddus, ac mae'r Pwyllgor am weld rhagor o dryloywder mewn sawl rhan o'r gyllideb ddrafft. Mae'r Comisiwn wedi cynnig cyllideb o £56.8 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r Pwyllgor eisoes wedi mynegi pryderon ynghylch cynlluniau gwario'r Comisiwn ar gyfer tanwariant penderfyniad y Bwrdd Taliadau – arian dros ben wedi i gyflog, pensiwn a threuliau Aelodau'r Cynulliad gael eu dyrannu – a mynegwyd y pryderon hyn gan Aelodau unwaith yn rhagor wrth iddynt gwestiynu dilysrwydd cynllunio ariannol ar sail y tanwariant arfaethedig.

Mae'r Pwyllgor wedi gwrthod cynlluniau i neilltuo cyllideb o £700,000 ar gyfer adeilad newydd posibl, gan fod angen rhagor o wybodaeth ac ymgynghori ag Aelodau cyn gwneud penderfyniad.

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth ynghylch lefelau staffio Comisiwn y Cynulliad, ond roedd yn cefnogi'r adolygiad o staff sy’n mynd rhagddo ar gais y Prif Weithredwr.

“Mae'n hanfodol cael deddfwrfa sy'n gallu arfer ei phwerau ar gyfer democratiaeth iach, ond nid ydym yn ddiogel rhag y cynni sy'n wynebu cymaint o sefydliadau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys ysbytai ac ysgolion,” meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Mae'r cynlluniau a amlinellwyd gan y Comisiwn yn eang, uchelgeisiol ac yn rhan hollbwysig o ddatblygu'r modd y mae pobl yn ymwneud â gwaith y Cynulliad yn y dyfodol, ac yn llywio'r gwaith hwnnw.

“Ond rhaid inni beidio ag anghofio'r angen i fod yn atebol, i adlewyrchu a chydnabod yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas, a sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei gwario yn y modd mwyaf effeithlon.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • O gofio'r toriadau parhaus a ddisgwylir ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ac yn seiliedig ar y ffigurau dangosol a ddarparwyd yn nogfennaeth y Gyllideb ddrafft, mae'r Pwyllgor yn argymell na ddylai cyllideb y Comisiwn, yn y blynyddoedd sy’n weddill o’r Cynulliad hwn, fod yn uwch nag unrhyw newidiadau i grant bloc Cymru;
  • Dylid diwygio'r gyllideb derfynol i ddileu'r cais i neilltuo £700,000 er mwyn gwneud cais cynllunio ar gyfer adeilad newydd. Os bydd angen bwrw ymlaen â'r cais, mae'r Pwyllgor yn credu y dylai'r Comisiwn ofyn am yr arian drwy gyllideb atodol, neu mewn cyllideb yn y dyfodol; a
  • Dylai'r Comisiwn baratoi diweddariad yn ystod y flwyddyn (cyn diwedd pob blwyddyn galendr) ar danwariant tebygol y Bwrdd Taliadau ynghyd ag unrhyw newidiadau sylweddol i'r prosiectau y bwriedir eu hariannu drwy ddefnyddio'r tanwariant hwn.

Bydd trafodaeth a phleidlais ynghylch cyllideb Comisiwn y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn fis nesaf.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19