Rhaid diffinio pwrpas Cyllid Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 30/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhaid diffinio pwrpas Cyllid Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

30 Mai 2014

Rhaid sicrhau bod pwrpas Cyllid Cymru yn glir, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Sefydlwyd Cyllid Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2001 i lenwi bwlch ariannu ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru sy'n ceisio codi arian. Mae'n rheoli gwerth £200 miliwn o fuddsoddiadau drwy bedair cronfa wahanol.

Daeth Cyllid Cymru o dan y chwyddwydr ar ôl honiadau nad oedd yn 'addas i'r diben' a'i fod yn codi mwy o log ar fenthyciadau na rhai banciau stryd fawr.

Ond dywedwyd wrth y Pwyllgor fod llawer o fusnesau yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gawsant gan y sefydliad a bod Cymru'n ffodus i'w gael.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen i Cyllid Cymru wneud mwy o ran marchnata a chyfleu'r hyn y gallai ei wneud ar gyfer busnesau.

O ran cyfraddau llog ar gyfer benthyciadau, canfu'r Pwyllgor fod Cyllid Cymru yn debyg i'r rhan fwyaf o fanciau, ond roedd achosion lle roedd ei gyfraddau yn uwch. Roedd y Pwyllgor yn derbyn bod ffactorau lliniaru, fel faint o risg sydd ynghlwm i fenthyciad, yn chwarae rhan, ond canfu y gellid dod o hyd i gyfran sylweddol, ychydig o dan chwarter, yn rhatach yn y farchnad fasnachol.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Mae Cyllid Cymru wedi bod yn destun llawer iawn o sylw yn y cyfryngau, ond gwelodd y Pwyllgor ei fod yn sefydliad uchel ei barch ar draws y sector busnes.

"Mae'n ymddangos bod problemau Cyllid Cymru yn deillio o ddiffyg cyfathrebu a gwybodaeth am ei bwrpas a sut y gall helpu busnesau bach a chanolig eu maint.

"Canfu'r Pwyllgor fod disgwyliadau ynghylch Cyllid Cymru yn uchel, gan gynnwys mynd i'r afael â materion nad oeddynt yn rhan o'i gylch gwaith.

"Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru egluro pwrpas Cyllid Cymru ac y gallai'r sefydliad elwa'n fawr o gael ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu i hysbysu busnesau yng Nghymru ynghylch sut y gall eu helpu."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Cyllid Cymru gynnal adolygiad o'i arferion gwaith i sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer busnesau bach a chanolig. Er mwyn llywio hyn, rydym yn argymell bod arolwg annibynnol o fusnesau bach a chanolig yn cael ei gomisiynu i sefydlu ymwybyddiaeth o Cyllid Cymru a'r meysydd sy'n peri pryder;

  • Dylai unrhyw newidiadau i Cyllid Cymru adeiladu ar ei sgiliau a'i seilwaith presennol, ac ni ddylent niweidio'r enw da y mae wedi'i ddatblygu; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru egluro nodau a chylch gwaith Cyllid Cymru. Dylai'r rhain nodi'r cydbwysedd rhwng ei ddau rôl, sef cyflawni elw masnachol a chyfrannu at ddatblygu economaidd.

Adroddiad: Cyllid Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i Cyllid Cymru ar gael yma.