Rhaid i daliadau fod yn deg ac yn “addas i’r diben”

Cyhoeddwyd 09/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Rhaid i daliadau fod yn deg ac yn “addas i’r diben”

09 Tachwedd 2011 Yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, mae Bwrdd Taliadau annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dweud bod rhaid i gyflogau a lwfansau ym Mae Caerdydd fod yn “addas i’r diben” ar gyfer Aelodau deddfwrfa.

“Rhaid i Aelodau’r Cynulliad ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn y Siambr ac yn y pwyllgorau,” meddai George Reid, Cadeirydd y Bwrdd.

“Rhaid iddynt ddeddfu. Rhaid iddynt gynrychioli’r sawl a’u hetholwyd, a’u pleidiau. Dylai eu taliadau sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny mewn modd teg a thryloyw.

“Dylai sicrhau gwerth am arian. Dylai hefyd adlewyrchu’r cyfrifoldebau hyn mewn cyd-destun Cymreig.”

Yn ei Benderfyniad cyntaf ym mis Mawrth 2011, a oedd yn eang ei gwmpas, ailstrwythurodd y Bwrdd y lwfansau a oedd wedi cael eu cyflwyno “mewn modd eithaf ad hoc” yn ystod y tri Chynulliad cyntaf, gan dargedu adnoddau at waith craffu mwy cyson gan Aelodau.

  • Mae cyflogau Aelodau’r Cynulliad yn cael eu rhewi ar £53,852 am bedair blynedd;

  • Mae nifer yr Aelodau Cynulliad sydd â hawl i gael llety yng Nghaerdydd yn cael ei dorri o 51 i 25, a gellir hawlio rhent yn unig;

  • Cynyddir y lwfans ar gyfer staff cymorth i £89,000;

  • Rhaid i bob Aelod newydd benodi, mewn proses sy’n cynnwys hysbysebu’n gyhoeddus, un aelod o staff i gyflawni gwaith ymchwil ac i gynorthwyo ym musnes ffurfiol y pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn;

  • Mae cyflogau’r staff yn cael eu rhewi tan fis Ebrill 2013 fan gyntaf. Diddymwyd taliadau bonws;

  • Ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, dim ond yr Aelodau nad oeddent yn llwyddiannus yn yr etholiadau a fydd â hawl i gael grant adsefydlu.

Yn gyffredinol, disgwylir y bydd penderfyniadau’r Bwrdd, gan gynnwys y rheini a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn arbed tua £2 filiwn dros y pedair blynedd nesaf.

Dywedodd Mr Reid ei bod yn “cymryd amser i newid diwylliant”, ond bod monitro’r recriwtio a defnydd yr adnoddau yn dangos bod Aelodau’n mynd i’r afael â’r her sydd wedi codi o ganlyniad i’r Refferendwm, sef bod yn “ddeddfwyr llawn”.

Mae’r Bwrdd wrthi’n cynnal adolygiad llawn o bensiynau Aelodau’r Cynulliad, gan werthuso effaith ei benderfyniadau blaenorol ar yr un pryd.