Rhaid i Gymru fod ar flaen y gad a pharatoi ar gyfer deallusrwydd artiffisial

Cyhoeddwyd 20/05/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/05/2025

Gallai deallusrwydd artiffisial ddod â manteision enfawr i economi Cymru, ond gallai hefyd ddod â risgiau, fel dadleoli swyddi. Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod ar gyfer y newidiadau hyn, ond hyd yn hyn, ychydig iawn o waith cynllunio y mae wedi’i wneud mewn perthynas ag effaith deallusrwydd artiffisial ar yr economi.

Heddiw, mae un o bwyllgorau’r Senedd yn galw am gynllun gweithredu cynhwysfawr i wneud y mwyaf o fanteision deallusrwydd artiffisial, cefnogi busnesau ac adeiladu seilwaith ym maes deallusrwydd artiffisial.

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ymchwiliad byr er mwyn ystyried i ba raddau y mae busnesau Cymru wedi mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, y cyfleoedd a’r risgiau economaidd sy’n gysylltiedig â hyn, yr effaith ar swyddi, a'r angen i ddatblygu sgiliau.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn glir: nid oes digon o waith wedi'i wneud i baratoi ar gyfer effeithiau deallusrwydd artiffisial. Felly, yn ogystal â galw am gynllun gweithredu, mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Nodi a chefnogi meysydd lle mae gan Gymru fantais gystadleuol o ran deallusrwydd artiffisial
  • Cefnogi parthau twf deallusrwydd artiffisial, gan ystyried y goblygiadau o ran defnydd ynni a dŵr
  • Dadansoddi pa sectorau sy’n wynebu’r risg fwyaf o ddadleoli swyddi o ganlyniad i ddeallusrwydd artiffisial, a chefnogi gweithwyr sydd, o bosibl, angen datblygu eu sgiliau ac ailhyfforddi
  • Asesu a mynd i’r afael â’r bylchau sgiliau yn y gweithlu sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial

Dywedodd Andrew R T Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd:

“Gallai deallusrwydd artiffisial ddod â manteision enfawr i Gymru, ond dim ond os ydym ar flaen y gad ac yn paratoi ar gyfer sut y gallai effeithio ar ein heconomi. Mae'n amlwg nad oes digon o waith paratoi wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru i asesu ble mae gan Gymru fantais gystadleuol.

“Mae’r effeithiau posibl eraill yn peri mwy o bryder, fel yr effaith y gallai deallusrwydd artiffisial ei chael ar rannau penodol o’r gweithlu, a sut y gallai effeithio ar swyddi.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi busnesau yn awr i wneud y gorau o ddeallusrwydd artiffisial, a chefnogi’r rhai a allai golli eu swyddi o ganlyniad i awtomeiddio.

“Penderfynodd ein Pwyllgor y dylem gynnal yr ymchwiliad byr hwn gan ein bod yn ymwybodol iawn nad oes digon o waith dadansoddi wedi’i wneud. Mae angen gwneud llawer mwy o waith i gynllunio ar gyfer yr hyn sydd o’n blaenau ac i roi Cymru mewn sefyllfa gref ym myd newydd deallusrwydd artiffisial.”