Wind farm

Wind farm

Rhaid i Lywodraeth y DU barchu rôl datganoli wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd

Cyhoeddwyd 22/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd wedi mynegi pryderon difrifol na roddodd Llywodraeth y DU unrhyw rybudd ymlaen llaw i Lywodraeth Cymru cyn cyhoeddi ei chynllun Sero Net yr wythnos hon.

Wrth gael ei holi gan y Pwyllgor, datgelodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS, na roddodd Llywodraeth y DU unrhyw wybodaeth ymlaen llaw i’w hadran cyn cyhoeddi cynllun Sero Net Llywodraeth y DU ddydd Mawrth.

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi dod i law ei hadran am 12:01 a.m. ar fore ei gyhoeddi.

Yn ôl Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: “Mae’r bygythiad yn sgil newid hinsawdd yn gofyn am gydweithio rhwng llywodraethau ledled y byd. Mae’n anodd coelio, felly, y byddai Llywodraeth y DU yn dal gwybodaeth yn ôl oddi wrth eu cymheiriaid yn Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r cynllun Sero Net.

“Roedd y cais gan Lywodraeth Cymru i gael gweld y ddogfen cyn ei chyhoeddi yn gwbl resymol, ac eto mae ymateb Llywodraeth y DU yn gweithredu’n groes i hanfod cydweithredu. Rhaid i Lywodraeth y DU barchu rôl datganoli wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

“Er mwyn meddu ar y cyfle gorau i feithrin perthynas gydweithredol lwyddiannus wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, fy ngobaith yw – wrth symud ymlaen – y bydd pob un o lywodraethau’r DU yn trin ei gilydd â pharch.”

At hynny, cafodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd wybod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, mai dim ond 15 munud y parodd ei chyfarfod ddydd Llun 18 Hydref gyd Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Ynni, Twf Glân a Newid Hinsawdd, lle cafodd wybod am y cynllun Sero Net.