Rhaid mynd i’r afael â gwendidau mewn addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 10/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

WelshMedium-Education.jpg

Rhaid mynd i'r afael â gwendidau mewn addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r gwendidau yn y strategaethau i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg, meddai un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod yn archwilio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy'n cael eu llunio gan awdurdodau lleol i roi hwb i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.

Canfu'r Pwyllgor fod nifer y plant sy'n dysgu Cymraeg yn gostwng mewn ardaloedd sydd â niferoedd uchel o ardaloedd Cymraeg eu hiaith, yn cynnwys Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae ardaloedd eraill, megis Powys, Castell-nedd Port Talbot a Sir Fôn, wedi gweld cynnydd yn y ffigurau.

Yn genedlaethol mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfaddef ei bod wedi methu ei thargedau addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2015, ac mae hyn yn debygol o ddigwydd unwaith eto yn 2020. 

Rhan o'r broblem a nodwyd gan y Pwyllgor yw'r diffyg atebolrwydd a chydgysylltu rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. 

Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru yn pennu'r strategaethau a'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drosi'r strategaeth honno yn ganlyniadau pendant drwy eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Fodd bynnag, ni wnaeth unrhyw beth a glywodd y Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad awgrymu bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithio ddigon i gyrraedd y targedau hynny. 

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i weld mwy o dryloywder yn y ffordd y mae'r cynlluniau hyn yn cael eu datblygu ac ar ba sail mae eu targedau yn cael eu penderfynu.

Mae'r Pwyllgor hefyd am i Lywodraeth Cymru ymyrryd lle mae'n teimlo bod awdurdod lleol yn methu â chyflawni ei gynllun.

"Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'n llawn bwriadau Llywodraeth Cymru y tu ôl i'w strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg," meddai David Rees AC, Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Plant,  Pobl Ifanc ac Addysg.

"Ond rydym yn teimlo bod gwendidau sylweddol rhwng y strategaeth ar lefel genedlaethol a'r cynlluniau i gyflawni ar lawr gwlad.

"Mae'r ffaith bod targedau yn cael eu methu, a bod niferoedd yn gostwng mewn ardaloedd lle y byddech efallai yn disgwyl eu gweld yn cynyddu, yn fater sy'n peri pryder.

"Rydym yn credu bod yn rhaid cael lefel llawer gwell o gydgysylltu ac atebolrwydd rhwng y llywodraeth a'r awdurdod i gyflawni'r cynlluniau hyn, gyda'r pŵer i ymyrryd yn cael ei gadw gan y llywodraeth ar gyfer ardaloedd sy'n methu."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod targedau'r Strategaeth yn cael eu hadlewyrchu yn y Cynlluniau Strategol a bod yn fwy cadarn wrth gymeradwyo'r Cynlluniau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru;

  • Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gliriach gydag awdurdodau lleol ynghylch ei disgwyliadau mewn perthynas â hyrwyddo twf addysg cyfrwng Cymraeg fel bod pob awdurdod lleol yn ymrwymo i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, a;

  • Dylai'r Gweinidog ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddo o dan ddeddfwriaeth bresennol i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu Cynlluniau Strategol.

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAu) (PDF, 1MB)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.