Rhaid torri’r cylch lle y mae plant i rieni sydd â phrofiad o ofal yn mynd i ofal hefyd

Cyhoeddwyd 02/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'n amser torri'r cylch lle y mae plant i rieni sydd â phrofiad o ofal yn cael eu cymryd i ofal hefyd, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn galw am roi mwy o gymorth i bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal neu’r rhai sydd mewn gofal pan fyddant yn dod yn rhieni.

Mae'n dilyn deiseb gan ofalwr maeth sy'n poeni nad oes digon o ddata'n cael eu casglu i wybod faint yn union o blant sy'n dychwelyd i'w rhieni sydd â phrofiad o ofal ar ôl i'w Lleoliad Rhiant a Phlentyn ddod i ben.

Mae hyn yn rhan o waith ehangach y Senedd ar y pwnc eleni – gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ym mis Mai.

Diffyg data

Clywodd y Pwyllgor gan 25 o rieni sydd â phrofiad o ofal. Roedd plant nifer o’r rhieni hyn wedi cael eu cymryd o’u gofal a'u rhoi mewn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu. Bu’n trafod gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd sy'n dangos, o blith y rhai yr oedd eu plant wedi eu cymryd i’w mabwysiadu, fod dros chwarter (27 y cant) o famau geni ac un rhan o bump (19 y cant) o dadau geni  wedi gadael gofal eu hunain.

Ond ni chyhoeddir data ar nifer y plant sy'n dychwelyd i'w rhieni sydd â phrofiad o ofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn – sef lleoliad a ddefnyddir i asesu galluoedd rhianta. 

Gwnaethant ddweud wrth y Pwyllgor hefyd eu bod wedi blino ar gael eu trin yn wahanol oherwydd iddynt fod mewn gofal, ac nad oedd y system yn rhoi'r gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt – yn enwedig pan roeddent yn cael plant.

Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd:

"Roedd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar daith pobl ifanc ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal pan fyddant yn cael eu plant eu hunain. Clywsom gan rieni o bob cwr o Gymru sydd â phrofiad o ofal. Gwnaethant sôn am ragfarn a rhagdybiaeth, a hanesion dirdynnol am unigolion yn ei chael yn anodd adeiladu bywydau gwell iddyn nhw eu hunain a'u hanwyliaid.

"Clywsom hefyd am wasanaethau gofal a chefnogaeth sy'n gweithio gyda'r rhiant drwy gydol beichiogrwydd ac yn dilyn genedigaeth plentyn, a'r gwahaniaeth cadarnhaol y maent wedi'i wneud wrth gadw teuluoedd gyda'i gilydd.

“Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r rhai a rannodd straeon eithriadol o bersonol, nid i helpu eu hunain, ond fel na fyddai'n rhaid i eraill fynd drwy yr un profiadau.

"Gobeithio y bydd ein hadroddiad a'n hargymhellion yn mynd rhywfaint o’r ffordd i sicrhau bod rhieni sydd â phrofiad o ofal yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac y bydd yn llywio gwaith ehangach y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sy’n edrych ar y system ofal yng Nghymru yn ei chyfanrwydd."

Mae'r Pwyllgor Deisebau yn gwneud chwe argymhelliad, sef:

  • Gofyn i bob corff cyhoeddus fabwysiadu'r siarter arfer da rhianta corfforaethol.
  • Parhau i gefnogi gwasanaethau aml-asiantaeth ar ffiniau gofal, fel ‘Babi a Fi’ sy'n cefnogi rhieni sy’n agored i niwed.
  • Diweddaru deddfwriaeth i sicrhau bod gan bob rhiant sydd â phrofiad o ofal hawl statudol i gael eiriolaeth rhiant.
  • Tai addas i bob rhiant sydd â phrofiad o ofal.
  • Mynd ati’n rheolaidd i ddiweddaru’r data ar nifer y bobl ifanc mewn gofal sydd â phlant – yn enwedig olrhain os yw’r plant yn aros gyda'r rhieni, yn mynd i ofal maeth neu aelodau o'r teulu, neu’n cael eu lleoli i'w mabwysiadu.
  • Dylai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fonitro'r cynnydd yn rheolaidd yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gofal cymdeithasol plant.

Dywedodd Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:Rwy'n mawr groesawu gwaith y Pwyllgor Deisebau sy’n edrych ar y rhan hynod bwysig hon o'r system ofal. Mae'n amlwg bod aelodau'r Pwyllgor Deisebau wedi rhoi blaenoriaeth i glywed yn uniongyrchol gan rieni sydd â phrofiad o ofal, a bod eu lleisiau wedi llywio'r casgliadau a'r argymhellion yn yr adroddiad.

"Mae'r adroddiad yn garreg filltir o ran y gwaith o graffu ar y system ofal sy'n digwydd ar draws y Senedd. Bydd yn ddarn allweddol o dystiolaeth i ni, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn ein hymchwiliad cynhwysfawr i'r system ofal yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Bydd ein hadroddiad terfynol yn nodi cynigion i ddiwygio'r system ofal yn radical, a bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai."