Seddi gwag yn y Cynulliad ar ôl Etholiad Cyffredinol 2015

Cyhoeddwyd 12/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae'r Llywydd wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan Antoinette Sandbach ynghylch ei hymddiswyddiad, a ddaw i rym ar unwaith, fel Aelod Cynulliad Rhanbarth Gogledd Cymru, yn dilyn ei hethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Eddisbury.

Mae hysbysiad ysgrifenedig hefyd wedi dod i law gan Byron Davies ei fod hefyd yn ymddiswyddo o'i sedd yn y Cynulliad, fel aelod rhanbarthol rhanbarth Gorllewin De Cymru, yn dilyn ei ethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Gŵyr. Daw ei ymddiswyddiad i rym o ddydd Gwener 15 Mai.

Mae'r Llywydd wedi rhoi gwybod i'r Swyddog Canlyniadau rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru am y swydd wag sydd bellach yn bodoli yn y rhanbarth etholiadol hwnnw. Caiff y Swyddog Canlyniadau yn Ngorllewin De Cymru wybod am y swydd wag yno maes o law.

Ar ôl cael eu hysbysu, mae'n ofynnol i'r Swyddogion Canlyniadau gysylltu â'r ymgeisydd nesaf ar y rhestr ar gyfer y blaid wleidyddol berthnasol. Unwaith y bydd y Swyddog Canlyniadau wedi sefydlu'n ffurfiol y gall y person wasanaethu a'i fod yn barod i wneud hynny, bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhoi gwybod i'r Llywydd beth yw enw'r person.

Pan fydd y Llywydd yn cael gwybod yr enw, bydd y person hwnnw yn dod yn Aelod Cynulliad. Fodd bynnag, ni all wneud gwaith Aelod Cynulliad hyd nes ei fod wedi tyngu llw.