Mae miloedd o ddinasyddion yr UE yng Nghymru yn parhau i fod mewn perygl o golli eu hawliau, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi byw yn ein gwlad ers blynyddoedd, a hynny oherwydd methiannau yn y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).
Heddiw mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol ar y Cynllun Preswylio, ac mae’n rhybuddio am anghyfiawnderau tebyg i sgandal Windrush gynt, gan nad yw pobl yn ymwybodol o hyd bod angen iddynt wneud cais.
Mae’r adroddiad, sef Sefydlog ond heb fod yn saff?, yn defnyddio gwybodaeth o bron bum mlynedd o waith monitro a chasglu tystiolaeth ers sefydlu'r Pwyllgor ym mis Mehefin 2021— sef yr un mis â dyddiad cau ceisiadau’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Mae'n datgelu pryderon dwys ynghylch canlyniadau hirdymor y cynllun, yn enwedig i grwpiau agored i niwed - fel pobl hŷn, plant mewn gofal, y gymuned Roma, dioddefwyr cam-drin, unigolion digartref - a'r rhai nad ydynt yn ymwybodol bod angen iddynt wneud cais.
Cynllun Llywodraeth y DU yw’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE y mae’n rhaid i ddinasyddion Ewrop wneud cais iddo er mwyn aros yn y DU ar ôl Brexit. Mae dros 131,000 o geisiadau wedi’u gwneud yng Nghymru, gyda dros 113,000 o’r rhain yn geisiadau llwyddiannus.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus bellach yn cyfrif am 3.6% o boblogaeth Cymru. Ac eto bob blwyddyn mae rhagor o bobl yn dod ymlaen, ac nid yw'r nifer gwirioneddol o bobl sy'n gymwys i wneud cais yn hysbys.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd:
“Mae’n frawychus, bum mlynedd ar ôl Brexit, fod dinasyddion yr UE yng Nghymru yn dal i wynebu’r risg frawychus o golli eu hawliau. Mae canlyniadau peidio â chael caniatâd i aros yn ddifrifol. Fel gyda chenhedlaeth Windrush, mae pobl mewn perygl o golli eu hawliau i waith, tai, budd-daliadau ac addysg. Hefyd mae rhai yn wynebu cael eu halltudio er eu bod wedi byw yma ar hyd eu hoes. Rydym yn ychwanegu ein llais at gôr o bobl sy'n rhybuddio am gymhlethdod y system wrth i bobl barhau heb wybod bod angen iddynt wneud cais.
“Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn parhau i dargedu cefnogaeth yn rhagweithiol at grwpiau agored i niwed yr ydym yn gwybod sy’n debygol o lithro drwy’r rhwyd ac nad ydynt yn ymwybodol o’r angen i wneud cais. Rydym yn annog un o bwyllgorau’r Senedd yn y dyfodol i barhau â'n gwaith, i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif fel nad oes unrhyw ddinesydd o'r UE yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl.”
Mae'r adroddiad yn nodi pedwar pryder allweddol:
Diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth – Mae llawer o ddinasyddion, landlordiaid, cyflogwyr a gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i beidio â deall y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn llawn, ac mae hynny yn arwain at wrthod gwasanaethau ar gam hyd yn oed i'r rhai sydd â statws.
Cymhlethdod y system – Mae newidiadau mynych a phrosesau digidol yn unig wedi creu rhwystrau i grwpiau agored i niwed, yn enwedig pobl hŷn, plant mewn gofal, dioddefwyr cam-drin, a'r rhai heb lythrennedd digidol.
Adleisiau o sgandal Windrush – Roedd profi preswyliad a diffyg dogfennaeth yn nodweddion Windrush ac fe'u hadleisir yn y Cynllun Preswylio. Ac fel Windrush, mae'r Cynllun Preswylio yn rhoi'r baich o ran profi ar unigolion, i brofi eu bod yn preswylio yma pan nad oes ganddynt y dogfennau angenrheidiol o bosibl.
Data a thryloywder annigonol – Mae methiant Llywodraeth y DU i rannu data sy’n benodol i Gymru gyda Llywodraeth Cymru yn rheolaidd yn llesteirio cefnogaeth a chynllunio effeithiol.
Mae'r Pwyllgor yn galw am well cydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Chymru, gan gynnwys cyllid hirdymor ar gyfer gwasanaethau cymorth, rhannu data yn well, a gwaith craffu parhaus gan y Senedd nesaf.
Mwy am y stori yma
Mae gwybodaeth am waith y Pwyllgor a’i adroddiadau blaenorol ar gael yma