#SeneddAbertawe - Y Cynulliad Cenedlaethol yn treulio wythnos yn Abertawe i gynyddu ymgysylltiad democrataidd

Cyhoeddwyd 07/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2015

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn Abertawe rhwng 12-16 Hydref i gynyddu ymgysylltiad â gwaith y Cynulliad.

Mae'r rhaglen o ddigwyddiadau'n rhan o ymgyrch y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, i ddangos i bobl Cymru sut mae'r Cynulliad yn gweithio iddyn nhw.

Yn ystod yr wythnos, bydd Abertawe yn cynnal tri chyfarfod pwyllgor ffurfiol y Cynulliad, a bydd y Cynulliad yn gweithio gyda nifer o ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol i roi gwybod iddynt am y ffordd y mae'r Cynulliad yn gweithio a chyfleoedd i ddylanwadu ar ei waith.

"Mae'r Aelodau Cynulliad sy'n cynrychioli Abertawe, Gŵyr a Gorllewin De Cymru, fel pob Aelod, yn gwneud gwaith ardderchog yn cynrychioli barn eu hetholwyr pan fyddwn yn craffu ar ddeddfwriaeth neu bolisi Llywodraeth Cymru yn y Senedd", dywedodd y Fonesig Rosemary.

"Ac eto pan rydych yn edrych ar y nifer o bobl yn Abertawe a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Cynulliad, neu'r rhai sy'n ymgysylltu â'r Cynulliad yn rheolaidd, mae'r ffigurau'n awgrymu bod diffyg cysylltu â'r broses wleidyddol yn bodoli o hyd.

"Os nad yw pobl yn cymryd rhan ac yn pleidleisio, ni fydd eu llais na'u barn yn cael eu clywed.  Mae annog pobl Cymru i gael mwy o gysylltiad â'r Cynulliad yn un o'i amcanion craidd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n clywed am obeithion a dyheadau pob un o gymunedau Cymru.

"Dyna pam yr ydym yn Abertawe - rydym am glywed gan bobl Abertawe yr wythnos hon er mwyn sicrhau ein bod yn creu sail gadarn ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol."

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi sefydlu partneriaeth â'r South Wales Evening Post i gyflwyno wythnos #SeneddAbertawe.

"Mae Abertawe yn hynod falch bod y Cynulliad Cenedlaethol yn dod i'r ddinas," meddai Golygydd yr Evening Post, Jonathan Roberts.

"Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle ar gyfer ymgysylltu gwirioneddol rhwng gwleidyddion a'r cyhoedd ar ystod o faterion sy'n effeithio arnom ni yn Ne Orllewin Cymru.

"Tra bod ein ACau lleol yn mwynhau proffil cyhoeddus sylweddol drwy'r cyfryngau lleol, sy'n cefnogi eu gwaith yn y gymuned, efallai nad yw rôl ehangach y Cynulliad yn cael cystal sylw ar lefel leol.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r wythnos hon fel llwyfan i dynnu sylw at sut y mae'r Cynulliad yn gweithio i Abertawe.  Gyda nifer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill, nid yn unig yn y ddinas ond ar draws rhanbarth Bae Abertawe, nid oes amser gwell i ofyn y cwestiynau pwysig i'r bobl sy'n cyfrif.

"Fel partner swyddogol, mae'r Evening Post yn falch o gymryd rhan ganolog yn y broses honno."