Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Wrecsam yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 23 Mawrth 2015. Diben yr ymweliad fydd ymwneud yn uniongyrchol â phobl Wrecsam, er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod:
- pwy sy'n eu cynrychioli yn y Senedd ym Mae Caerdydd;
- sut mae gwaith y Cynulliad yn effeithio ar eu bywydau bob dydd; a
- sut y gallant ddylanwadu ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dewiswyd Wrecsam fel y gyrchfan gyntaf ar gyfer ymweliad o'r math hwn oherwydd:
- Roedd nifer y bobl o'r ardal a bleidleisiodd yn etholiad y Cynulliad yn 2011 y nifer isaf ond un, yn ail yn unig i Ddwyrain Abertawe;
- Wrecsam yw'r bedwaredd dref fwyaf yng Nghymru, a'r dref fwyaf poblog yn y Gogledd (dros 61,000 yn 2011);
- Mae gennym nifer o bartneriaid yn yr ardal a all helpu i sicrhau bod ein rhaglen ar gyfer yr wythnos yn llwyddiannus.
Beth am alw heibio i ddysgu rhagor am waith y Cynulliad Cenedlaethol a'r Aelodau Cynulliad lleol:
Dydd Llun 23 Mawrth – 09:00 – 17:00 Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Dydd Mawrth 24 Mawrth – 09:00 – 17:00 Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Dydd Mercher 25 Mawrth – 09:00 – 17:00 Galw Wrecsam, Stryd yr Arglwydd, Wrecsam
Dydd Iau 26 Mawrth – 09:00 – 17:00 Coleg Cambria, Campws Iâl, Wrecsam
Dydd Gwener 27 Mawrth – 09:00 – 17:00 Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam
Dydd Gwener 27 Mawrth – 12:00 Digwyddiad Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam.
Bydd panel o Aelodau Cynulliad benywaidd yn trafod eu taith bersonol i fyd gwleidyddiaeth, a'r rhwystrau y bu'n rhaid iddynt eu goresgyn i lwyddo mewn bywyd cyhoeddus.
Mae sôn am ein digwyddiadau ar dudalen Facebook Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu dilynwch #SeneddWrecsam ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.