#SeneddWrecsam 23-27 Mawrth 2015

Cyhoeddwyd 18/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2015

 

 

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Wrecsam yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 23 Mawrth 2015. Diben yr ymweliad fydd ymwneud yn uniongyrchol â phobl Wrecsam, er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod:

  • pwy sy'n eu cynrychioli yn y Senedd ym Mae Caerdydd;
  • sut mae gwaith y Cynulliad yn effeithio ar eu bywydau bob dydd; a
  • sut y gallant ddylanwadu ar waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Dewiswyd Wrecsam fel y gyrchfan gyntaf ar gyfer ymweliad o'r math hwn oherwydd:

  • Roedd nifer y bobl o'r ardal a bleidleisiodd yn etholiad y Cynulliad yn 2011 y nifer isaf ond un, yn ail yn unig i Ddwyrain Abertawe;
  • Wrecsam yw'r bedwaredd dref fwyaf yng Nghymru, a'r dref fwyaf poblog yn y Gogledd (dros 61,000 yn 2011);
  • Mae gennym nifer o bartneriaid yn yr ardal a all helpu i sicrhau bod ein rhaglen ar gyfer yr wythnos yn llwyddiannus.

 

Beth am alw heibio i ddysgu rhagor am waith y Cynulliad Cenedlaethol a'r Aelodau Cynulliad lleol:

Dydd Llun 23 Mawrth – 09:00 – 17:00 Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

Dydd Mawrth 24 Mawrth – 09:00 – 17:00 Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

Dydd Mercher 25 Mawrth – 09:00 – 17:00 Galw Wrecsam, Stryd yr Arglwydd, Wrecsam

Dydd Iau 26 Mawrth – 09:00 – 17:00 Coleg Cambria, Campws Iâl, Wrecsam

Dydd Gwener  27 Mawrth – 09:00 – 17:00 Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam

Dydd Gwener 27 Mawrth – 12:00 Digwyddiad Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam.
Bydd panel o Aelodau Cynulliad benywaidd yn trafod eu taith bersonol i fyd gwleidyddiaeth, a'r rhwystrau y bu'n rhaid iddynt eu goresgyn i lwyddo mewn bywyd cyhoeddus.

Mae sôn am ein digwyddiadau ar dudalen Facebook Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu dilynwch #SeneddWrecsam ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.