#SeneddWrecsam - Stondin y Cynulliad Cenedlaethol yn Wrecsam i annog pobl i ymwneud fwyfwy â'r broses ddemocrataidd

Cyhoeddwyd 20/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/03/2015

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn Wrecsam rhwng 23 a 27 Mawrth i annog pobl i ymwneud fwyfwy â gwaith y Cynulliad.

Mae'r digwyddiadau yn rhan o ymgyrch y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, i annog pobl Cymru i ymwneud fwyfwy â'r Cynulliad.

Mae hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau sydd ar y gweill gan y Cynulliad i estyn allan i gymunedau ledled Cymru.

"Mae'r Aelodau Cynulliad sy'n cynrychioli Wrecsam, Sir y Fflint a Gogledd Cymru yn ehangach, fel yr holl Aelodau eraill, yn gwneud gwaith rhagorol o ran cynrychioli barn eu hetholwyr wrth graffu ar ddeddfwriaeth neu bolisïau Llywodraeth Cymru yn y Senedd," meddai'r Fonesig Rosemary.

"Maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarn i'r dadleuon rydym yn eu cael.  Ac eto, o edrych ar nifer y bobl yn Wrecsam a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Cynulliad, neu sy'n ymwneud â gwaith y Cynulliad yn rheolaidd, mae'r ffigurau'n awgrymu ein bod yn parhau i wynebu trafferthion o ran ymgysylltu â'r broses wleidyddol.

"Os nad ydi pobl yn cymryd rhan ac yn pleidleisio, fydd eu llais nhw neu eu safbwynt nhw ddim yn cael ei glywed.  Mae annog pobl Cymru i gael mwy o gysylltiad â'r Cynulliad yn un o'i amcanion craidd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n clywed am obeithion a dyheadau pob un o gymunedau Cymru.

"Dyna pam rydyn ni yn Wrecsam am wythnos.  Dwi eisiau i bobl Wrecsam ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y Cynulliad.

"Mi fyddwn ni'n mynd i lefydd eraill heblaw Wrecsam hefyd.  Rydyn ni'n gobeithio gwneud yr un peth mewn rhannau eraill o Gymru lle mae nifer y rhai sy'n ymwneud â gwaith y Cynulliad yn isel."

Bydd stondin y Cynulliad yn y mannau canlynol:

Dydd Llun 23 Mawrth  – Marchnad Tref Wrecsam  – Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

Dydd Mawrth 24 Mawrth  – Sgwâr y Frenhines, Wrecsam

Dydd Mercher 25 Mawrth  – Galw Wrecsam, Stryt yr Arglwydd, Wrecsam

Dydd Iau 26 Mawrth  – Coleg Cambria, Campws Iâl, Wrecsam

Dydd Gwener 27 Mawrth  – Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam

Hefyd, bydd y digwyddiadau canlynol ym Mhrifysgol Glyndŵr:

  • 26 Mawrth  – Digwyddiad pleidleisio@16 gyda phobl ifanc o bob rhan o Wrecsam i drafod sgwrs genedlaethol y Llywydd am ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed;
  • 27 Mawrth – Diwrnod newyddion hyperleol gyda newyddiadurwr cymunedol o Ogledd Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr a Chanolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Newyddiaduraeth Gymunedol;
  • 27 Mawrth  – Digwyddiad Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus #POWiPL – ar y panel bydd Aelodau Cynulliad a chynghorwyr benywaidd, a bydd menywod o bob rhan o Ogledd Cymru yn y gynulleidfa i drafod sut i gael rhagor o fenywod i swyddi cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr a'r Wrexham Leader, yn cyflwyno wythnos #SeneddWrecsam.

Yn ôl yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor dros dro Prifysgol Glyndŵr: "Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi'r Cynulliad i ddod â'r rhaglen hon o ddigwyddiadau i Wrecsam, ac i'n campws ni.

"Bydd yn gyfle i fyfyrwyr a phobl o bob rhan o'r rhanbarth ddysgu mwy am waith y Cynulliad, ac i ymwneud yn gymdeithasol ac yn wleidyddol ag ef.  Bydd yn gyfle hefyd i sôn am y gwaith arbennig iawn sy'n digwydd yn y rhan hon o'r wlad.

"Mae gogledd-ddwyrain Cymru yn fagwrfa o gryfder diwydiannol lle mae cwmnïau arloesol ar flaen y gad ar bob agwedd o dechnoleg, gan gynnwys awyrofod a pheirianneg.  Mae Prifysgol Glyndŵr ynghanol hyn oll ac yn falch iawn o allu chwarae rhan mor allweddol yn yr hyn a fydd yn ddigwyddiad eithriadol bwysig ar gyfer yr ardal leol a'r Cynulliad ei hun."

Dywedodd Barrie Jones, Cyfarwyddwr Golygyddol y Leader: "Mae'r Leader yn falch o fod yn gysylltiedig â digwyddiadau'r Cynulliad sy'n cael eu cynnal ar draws Wrecsam.  Fel papur newydd lleol rydym yn ymdrechu bob amser i adlewyrchu barn a dyheadau ein darllenwyr.  Mae ymgysylltu'n llawn â'r prosesau democrataidd sydd ar gael i ni yn rhan allweddol o hyn.  Er mwyn cael ein clywed yn glir yng Nghaerdydd, mae angen i ni yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru weiddi mor uchel â phosibl a sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i leisio ein huchelgeisiau a'n pryderon.

"Un o amcanion craidd y Cynulliad yw annog a datblygu ymgysylltiad ar draws Cymru.  Yma yn Wrecsam, mae gennym ddigon i'w ddathlu ac rydym hefyd yn gweld ein lle ni yn glir fel rhan bwysig o Gymru ddatganoledig.  Rydym yn croesawu pob cyfle i wella'r hunaniaeth honno."