Sgwrs gyda'r Llywydd a thrafodaeth ar adael yr Undeb Ewropeaidd sydd ar frig rhaglen ddigwyddiadau'r Cynulliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddwyd 21/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/07/2016

​Bydd cyfweliad manwl gyda'r Llywydd a thrafodaeth ynghylch goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru ymhlith y prif ddigwyddiadau a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1-5 Awst yn y Fenni.

Unwaith eto, mae'r Cynulliad wedi trefnu rhaglen gyfoethog o weithgareddau ym Mhafiliwn y Cymdeithasau sy'n amlygu ei safle pwysig wrth wraidd bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Ar 2 Awst, bydd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, yn sgwrsio gyda'r newyddiadurwr Catrin Hâf Jones, yn trafod yr heriau unigryw a'r cyfleoedd y mae'n eu hwynebu yn y Pumed Cynulliad.

Bydd y Llywydd hefyd yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol. Gellir gofyn cwestiwn naill ai drwy ddefnyddio #HoliLlywydd / #AskLlywydd ar Twitter, neu bostio ar dudalen Facebook y Cynulliad, lle bydd y sesiwn yn cael ei darlledu'n fyw.

Bydd yr Athro Roger Scully a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ceisio egluro, ynghyd â phanelwyr eraill, y patrymau pleidleisio gwahanol a welwyd yng Nghymru a beth fydd y dyfodol i Gymru ar ôl gael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd digwyddiadau eraill yn cynnwys Cyngor Gofal Cymru yn egluro ei enw newydd, Gofal Cymdeithasol Cymru, a'i rôl ehangach, sy'n cynnwys gwella gwasanaethau ac ymchwil, yn ogystal â rheoleiddio a datblygu'r gweithlu.

Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, drwy ei brosiect 'Cymru dros Heddwch', yn edrych ar sut y mae pobl Cymru wedi cyfrannu at chwilio am heddwch dros y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn olaf, bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, o dan arweiniad Cadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins AC, yn cynnal trafodaeth banel i ystyried syniadau ar gyfer y materion y dylent fod yn eu hystyried dros y misoedd nesaf / yn ystod y Cynulliad hwn.

Bydd staff y Cynulliad wrth law i hyrwyddo ein hymgyrch #NabodEichAC, i helpu pobl i ddarganfod pwy sy'n eu cynrychioli yn dilyn etholiad mis Mai a sut y gallant gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad.

Rhaglen digwyddiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol – 1-5 Awst, y Fenni *

Dydd Llun, 1 Awst:

16.00 – 17.00 – Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?

Dydd Mawrth, 2 Awst:

11.00 – 12.00 – Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, yn sgwrsio gyda Catrin Hâf Jones

Dydd Mercher, 3 Awst:

11.30 – 12.30 – Gadael yr Undeb Ewropeaidd a Chymru: Trafodaeth gyda Canolfan Llywodraethiant Cymru ar oblygiadau tebygol gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru, gyda'r Athro Roger Scully a'r Athro Richard Wyn Jones

Dydd Iau, 4 Awst:

11.00 – 12.00 – Cyngor Gofal Cymru

Dydd Gwener, 5 Awst:

11.00 – 12.00 – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru: Cred a Gweithredu - y Gymru yr oeddem ei heisiau, ddoe a heddiw

*Cynhelir yr holl ddigwyddiadau ym Mhafiliwn y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod.