Shami Chakrabarti i siarad yn y Pierhead fel rhan o ddigwyddiad Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 27/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Shami Chakrabarti i siarad yn y Pierhead fel rhan o ddigwyddiad Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu Shami Chakrabarti, yr ymgyrchydd dros hawliau sifil a hawliau dynol, i’r Pierhead ar 2 Gorffennaf.

Bydd Ms Chakrabarti yn annerch cynulleidfa o fenywod o Gymru ar y thema “Menywod, Pwer a Newid”, cyn cymryd rhan mewn sesiwn hawl i holi.

Mae’r sesiwn hon wedi’i threfnu fel rhan o ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd (#POWiPL), sy’n ceisio annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus drwy fod yn Ynadon, cynghorwyr, cyfreithwyr, llywodraethwyr ysgol neu rôl gyhoeddus arall.

Mae darparu modelau rôl yn ganolog i’r ymgyrch, drwy gynnal cyfres o ddarlithiau yn y Pierhead.

Dywedodd Shami Chakrabarti, Cyfarwyddwr Liberty: “Mae’n anrhydedd i fod yn annerch dadl Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Fenywod, Pwer a Newid.

“Mae’n rhaid mai anghyfiawnder o ran rhywedd yw un o’r troseddau mwyaf yn erbyn hawliau dynol ar lefel fyd-eang ac yn agosach i gartref.

“Hefyd, gallai mynd i’r afael â’r mater hwn fod yn allweddol i hybu heddwch, ffyniant, iechyd a hapusrwydd i bawb am genedlaethau i ddod.”

Mae’r digwyddiad hwn yn un o gyfres o sesiynau a drefnwyd gyda menywod sy’n fodelau rôl yn eu meysydd, yn sgîl mandad a roddwyd i’r Llywydd yng nghynhadledd Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus fis Tachwedd y llynedd.

Nododd y Llywydd nifer o feysydd fel gwyddoniaeth a pheirianneg, chwaraeon a hawliau sifil a’r gyfraith yn arbennig lle nad yw menywod yn cael cynrychiolaeth ddigonol.

Mae siaradwyr blaenorol wedi cynnwys y Farwnes Susan Greenfield, y gwyddonydd blaenllaw, a’r Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru.

Bydd Shami Chakrabarti yn siarad ar 2 Gorffennaf, a bydd siaradwyr yn y dyfodol yn cynnwys Janet Street-Porter, y ddarlledwraig a newyddiadurwraig, ar 10 Hydref.

Dywedodd y Llywydd: “Mae’n wych bod model rôl fel Shami Chakrabarti yn dod i siarad â chynulleidfa yng Nghymru”.

“Mae hi’n ysbrydolaeth i bob un ohonom, ac yn dangos bod menywod yn gallu bod yn arweinwyr mewn meysydd sydd yn draddodiadol wedi’u harwain gan ddynion yn unig.

“Dyna pam y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu’r gyfres hon o ddigwyddiadau lle bydd menywod blaenllaw yn rhannu eu profiadau a sut y maent yn credu y gallwn gael gwared ar y rhwystrau sy’n atal menywod rhag cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

“Fodd bynnag, nid y sesiynau hyn yw diwedd ein hymrwymiad. Bydd y Cynulliad yn lansio porth newydd ar y we maes o law.

“Bydd y porth yn gweithredu fel siop un alwad ar gyfer menywod sy’n dymuno canfod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt mewn bywyd cyhoeddus, sut i wneud cais amdanynt, a sut i elwa o brofiadau sy’n cael eu rhannu gan fenywod eraill.”

Os nad ydych wedi llwyddo i gael tocyn ar gyfer y digwyddiad, gallwch ei ddilyn ar #POWiPL.