Sicrhau bod y system gynllunio yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad ar y Bil Cynllunio (Cymru)

Cyhoeddwyd 10/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ynghylch y Bil Cynllunio (Cymru).

Cyflwynwyd y Bil gan Lywodraeth Cymru ar 6 Hydref, ac mae'n cynnwys nifer o gynigion sydd â'r nod o wella prosesau cynllunio yng Nghymru.

Yn gryno, mae'r Bil yn cynnig newid y gyfraith er mwyn:

  • trefnu bod Gweinidogion Cymru yng Nghaerdydd yn gyfrifol am benderfynu ynghylch rhai prosiectau cynllunio mawr (fel prosiectau ynni ar raddfa fawr), yn hytrach na chynghorwyr sir; 
  • galluogi cynghorau i gydweithio i fynd i'r afael â materion mawr, trawsffiniol (fel datblygiad economaidd ar hyd coridor yr A55 neu'r cyflenwad tai yn ardal cymudwyr Caerdydd) drwy lunio Cynlluniau Datblygu Strategol;
  • ei gwneud yn haws i ddinasyddion ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau, drwy gyflwyno ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio sylweddol;
  • gwella effeithlonrwydd y system gynllunio gan gynnwys y broses apelio; a
  • gwneud newidiadau mewn perthynas â cheisiadau i gofrestru meysydd tref neu bentref.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Bil, bydd y Bil yn darparu fframwaith deddfwriaethol modern ar gyfer gweithredu'r system gynllunio yng Nghymru, gan roi strwythurau ar waith er mwyn sicrhau bod y system gynllunio yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Os caiff ei basio, bydd y Bil yn cynorthwyo i gyflawni dyheadau cenedlaethol, lleol a chymunedol drwy greu lleoedd cynaliadwy lle y mae'n haws i ddinasyddion gael mynediad i gartrefi a swyddi o safon, a mwynhau amgylcheddau adeiledig a naturiol o safon.

Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn ystyried a oes angen y Bil, neu a ellir cyflawni ei amcanion drwy gyfreithiau presennol. Bydd hefyd yn trafod goblygiadau ariannol y Bil ac yn ystyried pa drefniadau sydd ar waith i fesur i ba raddau y mae'r canlyniadau a fwriedir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, "Mae cynllunio yn un o'r materion hynny sy'n effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau, o brisiau tai a hyd ein taith ddyddiol i'r gwaith i faterion cenedlaethol fel mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Felly, mae'n bwysig inni sicrhau bod y Bil yn gywir, gan mai'r system gynllunio sy'n darparu'r adnoddau inni daro cydbwysedd rhwng y gofynion amrywiol sydd gan bobl yn ein cymunedau.

"Fel Pwyllgor, byddwn yn edrych ar y Bil hwn yn fanwl i weld a ddylai ddod yn gyfraith, ac i sicrhau, os bydd hynny'n digwydd, ei fod yn cyrraedd y safonau uchaf posibl."

I gael rhagor o wybodaeth am gefndir y Bil, darllenwch ein cofnod blog:

http://cynulliadcenedlaetholcymru.wordpress.com/2014/10/10/sicrhau-bod-y-system-gynllunio-yn-addas-ar-gyfer-yr-unfed-ganrif-ar-hugain/

 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil yn dod i ben ar 7 Tachwedd 2014. Bydd manylion yr ymgynghoriad ar gael o 10 Hydref ymlaen:

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=375

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol ar gael yn eu cyfanrwydd yma:

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8979