Strategaeth Swyddi a Thwf yr UE – Aelod Cynulliad i chwarae rhan allweddol.

Cyhoeddwyd 12/03/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Strategaeth Swyddi a Thwf yr UE – Aelod Cynulliad i chwarae rhan allweddol.

Bydd Christine Chapman, AC Cwm Cynon, yn chwarae rhan ganolog yn y ddadl ar strategaeth yr Undeb Ewropeaidd i greu swyddi a thwf economaidd yn ystod y deng mlynedd nesaf, sef yr hyn a elwir yn Strategaeth Lisbon.

Mae wedi cael ei dewis yn ‘rapporteur’ ar gyfer Pwyllgor y Rhanbarthau yn Ewrop i drafod cyfeiriad strategaeth economaidd yr UE ar gyfer y dyfodol.

Bydd yn ysgrifennu papur a fydd yn nodi’r hyn ddylai, yn ei barn hi, fod yn brif amcanion y strategaeth, gyda’r nod o ddylanwadu ar gynigion y Comisiwn Ewropeaidd a ddisgwylir yn gynnar yn 2010.

“Mae’n amlwg ein bod yn wynebu heriau o ran cysoni uchelgais economaidd â phryderon ehangach sy’n ymwneud â newid hinsawdd a datblygu cynaliadwy,” meddai Mrs Chapman.

“Ond mae’n debyg mai’r her fwyaf, wrth gwrs, yw mynd i’r afael â’r effaith a gaiff y dirywiad economaidd ar bob agwedd ar gymdeithas.

“Bydd cynnydd mewn diweithdra yn effeithio ar allgau cymdeithasol, tlodi a hyd yn oed anghydfod sifil.

“Dyna pam mae angen cydweithredu ar lefel Ewropeaidd – yn ogystal â gweithredu ar lawr gwlad, sy’n rhywbeth a gydnabyddir yng Nghymru, lle mae pedair uwchgynhadledd economaidd eisoes wedi’u cynnal ers mis Hydref – i ddwyn ynghyd fusnesau a gweithwyr mewn ymgais i ddod o hyd i atebion.”

Cyfarfu AC Cwm Cynon â Jose Manuel Barroso, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn Prague ar ddechrau’r mis, lle roedd ymgynghoriad Pwyllgor y Rhanbarthau yn cael ei lansio. Bydd Mrs Chapman yn defnyddio’r ymgynghoriad wrth lunio’i hadroddiad.

Dywedodd y Llywydd Barroso:

“Bydd yn naturiol i ni ganolbwyntio yn gyntaf ar adfer yr economi. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd ystyried y tymor canolig, y tu hwnt i’r argyfwng. Dyna ddiben Strategaeth Lisbon. Mae’n parhau i fod yn gonglfaen i’r gwaith cydgysylltu economaidd yn yr UE.

“Credaf hefyd mai un o’r blaenoriaethau pendant ar gyfer y cyfnod ar ôl 2010 fydd sicrhau mwy o gyfraniad gan awdurdodau lleol a rhanbarthol pan fydd polisïau’n cael eu llunio.”

Gobaith Mrs Chapman yw y bydd cyfarfod llawn Pwyllgor y Rhanbarthau yn cytuno ar ei phapur ddechrau mis Rhagfyr.

Mae’r amseru hwnnw yn cyd-fynd â chyhoeddi cynigon y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dyfodol Strategaeth Lisbon o ran twf a swyddi a disgwylir hynny ddechrau 2010.

Dyma’r tro cyntaf i Aelod o’r Cynulliad gael cais i ymgymryd â swyddogaeth mor bwysig ers i Rosemary Butler, AC Gorllewin Casnewydd, gael ei dewis yn Rapporteur ar ddyfodol Rhaglen Ddiwylliant yr UE yn 2003.

Cyfarfu Christine Chapman, AC Cwm Cynon, â Jose Manuel Barroso, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn Prague ar ddechrau’r mis.

Cyfarfu Christine Chapman, AC Cwm Cynon, â Jose Manuel Barroso, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn Prague ar ddechrau’r mis.