Strwythur pwyllgorau newydd yn cryfhau gwaith craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Mehefin 2011
Yn ystod ei Gyfarfod Llawn heddiw (22 Mehefin 2011), cymeradwyodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru strwythur pwyllgorau newydd.
Mae’r strwythur yn cynnwys pum pwyllgor fydd â rôl ddeuol o edrych ar bolisi a deddfwriaeth.
Bydd y pwyllgorau hyn yn edrych ar y meysydd pwnc eang a ganlyn: Plant a Phobl Ifanc; yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol; a Menter a Busnes.
Yn ogystal, bydd gan y Cynulliad Bwyllgor Deisebau, Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Pwyllgor Cyllid, Pwyllgor Safonau a phwyllgor i oruchwylio Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Dywedodd y Llywydd, Rosemary Butler AC: “Mae’r system pwyllgorau newydd yn golygu y bydd y wybodaeth fanwl sydd gan Aelodau unigol am bynciau yn cael ei defnyddio wrth graffu ar ddeddfwriaeth yn ogystal â pholisi’r Llywodraeth. Felly, mae’r Cynulliad yn creu strwythur ac amgylchedd ar gyfer cynnal gwaith craffu gwell ar Filiau, polisi a chyllid, yn ogystal â symleiddio’r system.”
“Rwyf yn hyderus y bydd y newid hwn yn ei gwneud yn haws i bobl Cymru ymgysylltu â thrafodion y Cynulliad. Bydd yn darparu ffenestr i sefydliadau llai gymryd rhan yn ein gwaith a fydd, o ganlyniad, yn adlewyrchu buddiannau ac anghenion etholwyr Cymru’n well.
Manylion llawn aelodaeth y pwyllgorau:
Teitlau |
Aelodau |
Cadeirydd |
---|---|---|
Plant a Phobl Ifanc (10 o aelodau) |
Llafur: Christine Chapman, Keith Davies, Julie Morgan, Lynne Neagle a Jenny Rathbone Ceidwadwyr: Angela Burns a Suzy Davies Plaid Cymru: Simon Thomas, Jocelyn Davies Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams |
Llafur: Christine Chapman |
Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd (10 o aelodau) |
Llafur: Mick Antoniw, Rebecca Evans, Vaughan Gething, Julie James a David Rees Ceidwadwyr: Antoinette Sandbach a Russell George Plaid Cymru: Dafydd Elis-Thomas, Llyr Huws Gruffydd Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell |
Plaid: Dafydd Elis-Thomas |
Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10 o aelodau) |
Llafur: Mick Antoniw, Mark Drakeford, Rebecca Evans, Vaughan Gething a Lynne Neagle Ceidwadwyr: Darren Millar a Janet Finch-Saunders Plaid Cymru: Elin Jones, Lindsay Whittle Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams |
Llafur: Mark Drakeford |
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (10 o aelodau) |
Llafur: Mike Hedges, Ann Jones, Gwyn Price, Ken Skates a Joyce Watson Ceidwadwyr: Mark Isherwood a William Graham Plaid Cymru: Rhodri Glyn Thomas, Bethan Jenkins Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black |
Llafur: Ann Jones |
Menter a Busnes (10 o aelodau) |
Llafur: Keith Davies, Julie James, David Rees, Ken Skates a Joyce Watson Ceidwadwyr: Andrew RT Davies a Byron Davies Plaid Cymru: Alun Ffred Jones, Leanne Wood Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell |
Ceidwadwyr: Andrew RT Davies |
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (1 o bob plaid + y Dirprwy Lywydd) |
Llafur: Julie James Ceidwadwyr: Paul Davies Plaid Cymru: Simon Thomas Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black |
Y Dirprwy Lywydd: David Melding |
Cyllid (8 o aelodau) |
Llafur: Christine Chapman, Julie Morgan, Ann Jones, Mike Hedges Ceidwadwyr: Nick Ramsay Plaid Cymru: Ieuan Wyn Jones, Jocelyn Davies Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black |
Plaid: Jocelyn Davies |
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (8 o aelodau) |
Llafur: Mike Hedges, Gwyn Price, Jenny Rathbone, Julie Morgan Ceidwadwyr: Darren Millar and Mohammad Asghar Plaid Cymru: Leanne Wood Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black |
Ceidwadwyr: Darren Millar |
Deisebau (4 o aelodau) |
Llafur: Joyce Watson Ceidwadwyr: Russell George Plaid Cymru: Bethan Jenkins Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell (Cadeirydd) |
Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell |
Safonau (4 o aelodau) |
Llafur: Mick Antoniw Ceidwadwyr: Mark Isherwood Plaid Cymru: Llyr Huws Gruffydd Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams |
Llafur: Mick Antoniw |