Strwythur pwyllgorau newydd yn cryfhau gwaith craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 22/06/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Strwythur pwyllgorau newydd yn cryfhau gwaith craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mehefin 2011

Yn ystod ei Gyfarfod Llawn heddiw (22 Mehefin 2011), cymeradwyodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru strwythur pwyllgorau newydd.

Mae’r strwythur yn cynnwys pum pwyllgor fydd â rôl ddeuol o edrych ar bolisi a deddfwriaeth.

Bydd y pwyllgorau hyn yn edrych ar y meysydd pwnc eang a ganlyn: Plant a Phobl Ifanc; yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol; a Menter a Busnes.

Yn ogystal, bydd gan y Cynulliad Bwyllgor Deisebau, Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Pwyllgor Cyllid, Pwyllgor Safonau a phwyllgor i oruchwylio Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Dywedodd y Llywydd, Rosemary Butler AC: “Mae’r system pwyllgorau newydd yn golygu y bydd y wybodaeth fanwl sydd gan Aelodau unigol am bynciau yn cael ei defnyddio wrth graffu ar ddeddfwriaeth yn ogystal â pholisi’r Llywodraeth. Felly, mae’r Cynulliad yn creu strwythur ac amgylchedd ar gyfer cynnal gwaith craffu gwell ar Filiau, polisi a chyllid, yn ogystal â symleiddio’r system.”

“Rwyf yn hyderus y bydd y newid hwn yn ei gwneud yn haws i bobl Cymru ymgysylltu â thrafodion y Cynulliad. Bydd yn darparu ffenestr i sefydliadau llai gymryd rhan yn ein gwaith a fydd, o ganlyniad, yn adlewyrchu buddiannau ac anghenion etholwyr Cymru’n well.

Manylion llawn aelodaeth y pwyllgorau:

Strwythur pwyllgorau newydd yn cryfhau gwaith craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Teitlau

Aelodau

Cadeirydd

Plant a Phobl Ifanc

(10 o aelodau)

Llafur: Christine Chapman, Keith Davies, Julie Morgan, Lynne Neagle a Jenny Rathbone

Ceidwadwyr: Angela Burns a Suzy Davies

Plaid Cymru: Simon Thomas, Jocelyn Davies

Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams

Llafur: Christine Chapman

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

(10 o aelodau)

Llafur: Mick Antoniw, Rebecca Evans, Vaughan Gething, Julie James a David Rees

Ceidwadwyr: Antoinette Sandbach a Russell George

Plaid Cymru: Dafydd Elis-Thomas, Llyr Huws Gruffydd

Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell

Plaid: Dafydd Elis-Thomas

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(10 o aelodau)

Llafur: Mick Antoniw, Mark Drakeford, Rebecca Evans, Vaughan Gething a Lynne Neagle

Ceidwadwyr: Darren Millar a Janet Finch-Saunders

Plaid Cymru: Elin Jones, Lindsay Whittle

Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams

Llafur: Mark Drakeford

Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

(10 o aelodau)

Llafur: Mike Hedges, Ann Jones, Gwyn Price, Ken Skates a Joyce Watson

Ceidwadwyr: Mark Isherwood a William Graham

Plaid Cymru: Rhodri Glyn Thomas, Bethan Jenkins

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Llafur: Ann Jones

Menter a Busnes

(10 o aelodau)

Llafur: Keith Davies, Julie James, David Rees, Ken Skates a Joyce Watson

Ceidwadwyr: Andrew RT Davies a Byron Davies

Plaid Cymru: Alun Ffred Jones, Leanne Wood

Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell

Ceidwadwyr: Andrew RT Davies

Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(1 o bob plaid + y Dirprwy Lywydd)

Llafur: Julie James

Ceidwadwyr: Paul Davies

Plaid Cymru: Simon Thomas

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Y Dirprwy Lywydd: David Melding

Cyllid

(8 o aelodau)

Llafur: Christine Chapman, Julie Morgan, Ann Jones, Mike Hedges

Ceidwadwyr: Nick Ramsay

Plaid Cymru: Ieuan Wyn Jones, Jocelyn Davies

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Plaid: Jocelyn Davies

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

(8 o aelodau)

Llafur: Mike Hedges, Gwyn Price, Jenny Rathbone, Julie Morgan

Ceidwadwyr: Darren Millar and Mohammad Asghar

Plaid Cymru: Leanne Wood

Democratiaid Rhyddfrydol: Peter Black

Ceidwadwyr: Darren Millar

Deisebau

(4 o aelodau)

Llafur: Joyce Watson

Ceidwadwyr: Russell George

Plaid Cymru: Bethan Jenkins

Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell (Cadeirydd)

Democratiaid Rhyddfrydol: William Powell

Safonau

(4 o aelodau)

Llafur: Mick Antoniw

Ceidwadwyr: Mark Isherwood

Plaid Cymru: Llyr Huws Gruffydd

Democratiaid Rhyddfrydol: Kirsty Williams

Llafur: Mick Antoniw