Sut allwn ni ddiogelu a thyfu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru? Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ymchwiliad

Cyhoeddwyd 15/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/05/2019

Yn dilyn sawl ymgyrch uchel eu proffil yn erbyn bygythiadau i leoliadau cerddoriaeth yng Nghymru, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymchwiliad i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r diwydiant cerddoriaeth.

Mae llawer sy'n ymwneud â'r diwydiant, yn ogystal â'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth, yn credu bod lleoliadau yng Nghymru ar gyfer cerddoriaeth fyw yn ei chael hi'n anodd, tra bod ffigurau'r DU gan UK Music yn datgelu bod 35 y cant o leoliadau cerddoriaeth wedi cau dros y degawd diwethaf. 

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar faterion sy'n effeithio ar y diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru ac yn dechrau gyda lleoliadau a gwyliau mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yn dilyn hyn, bydd y Pwyllgor yn symud ymlaen i edrych ar faterion eraill sy'n wynebu'r diwydiant cerddoriaeth, fel cyfleoedd i ddatblygu talent a chynaliadwyedd y sîn gerddoriaeth Gymreig.

Wrth lansio'r ymchwiliad, dywedodd Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:
 
"Mae Cymru yn genedl gerddorol ac rydym i gyd yn ymfalchïo yn hynny. Ond, er mwyn i'r diwydiant oroesi a ffynnu, mae angen i ni ddeall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu lleoliadau, artistiaid a phawb sy'n cyfrannu at lwyddiant y diwydiant.

"Mae'r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn llawn talent ond, er mwyn i'r genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig ffynnu, mae angen i ni weithredu nawr er mwyn eu cefnogi nhw ac artistiaid yn y dyfodol ym mhob ffordd y gallwn.

"Mae ein pwyllgor yn awyddus i glywed gan bawb sydd ynghlwm â'r diwydiant a chlywed beth y gellir ei wneud i helpu."
 
Ychwanegodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach a Sŵn:
 
"Mae'r blynyddoedd diweddar wedi bod yn rhai heriol iawn i'r byd cerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r ffaith bod nifer o leoliadau cerddorol llawr gwlad amlwg wedi cau wedi cyfyngu'n ddifrifol ar y cyfleoedd sydd ar gael i artistiaid newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, yn ogystal â chael effaith negyddol ar allbwn diwylliannol nifer o drefi a dinasoedd Cymru. Oherwydd hynny, rwy'n croesawu'r penderfyniad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol i edrych ar y materion y mae'r sector yn eu hwynebu.

"Mae Cymru yn parhau i gynhyrchu artistiaid newydd gwych a bydd canlyniadau'r ymchwiliad hwn yn gosod sylfaen er mwyn cryfhau'r seilwaith sydd ei angen i gynnal a datblygu'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn y dyfodol."