Sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn Brexit? - ymchwiliad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 14/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2016

​Bydd ymchwiliad newydd yn ystyried effaith bosibl Brexit ynghyd â'r Ddeddf Hawliau Prydeinig arfaethedig ar hawliau dynol yng Nghymru.

Cynhelir yr ymchwiliad hwn ganBwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, ac mae Llywodraeth y DU wedi cynnig diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chreu deddfwriaeth newydd yn lle, a allai gyfyngu ar rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Yn sgil hyn, bydd y Pwyllgor yn trafod y canlynol:

  • effaith Brexit ar y modd yr amddiffynnir hawliau dynol yng Nghymru;
  • effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei le; a
  • chanfyddiadau'r cyhoedd o ran hawliau dynol yng Nghymru, yn arbennig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru.

Mewn datganiad a wnaethpwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y Senedd ddydd Mercher 14 Rhagfyr, nododd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yr hyn yr oedd y Pwyllgor yn gobeithio ei gyflawni:

"Mae hawliau dynol yn bwnc eang a chymhleth, ac mae'r Pwyllgor wedi penderfynu cynnal ei waith penodol cyntaf arno, gan ddefnyddio dull â ffocws penodol, a gwneud hynny i safon uchel.

"Yn ystod yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn ystyried effaith bosibl Brexit ynghyd â'r Ddeddf Hawliau Prydeinig arfaethedig ar hawliau dynol yng Nghymru. Rydym hefyd yn awyddus i wybod beth yw dealltwriaeth y cyhoedd o ran hawliau dynol yng Nghymru.

"Rwy'n ystyried y gwaith y mae'r Pwyllgor yn ei lansio heddiw fel rhan o ddull sy'n seiliedig ar hawliau - dull y byddwn yn ei ddefnyddio wrth graffu trwy gydol y Pumed Cynulliad.

"Rwy'n disgwyl y bydd ein rhaglen waith yn cynnwys ymchwiliadau sy'n seiliedig ar hawliau dynol yn benodol, ac yn eu cyfuno ag ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â hawliau o fewn ein cylch gwaith.”

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad fynd i dudalennau we’r Pwyllgor wefan y Pwyllgor am ragor o wybodaeth.

10 Chwefror 2017 yw dyddiad cau'r ymgynghoriad.