Teyrnged i’r cyn Aelod Denise Idris Jones

Cyhoeddwyd 28/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2020

​Yn dilyn y newyddion am farwolaeth y cyn Aelod Denise Idris Jones, mae Llywydd y Senedd wedi rhoi’r deyrnged isod. 

Meddai Elin Jones AS, Llywydd y Senedd: “Bu Denise yn Aelod a gyfrannodd yn effeithiol yn ystod yr ail Senedd. Cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Denise ac i’r amryw gymunedau ar hyd y gogledd y buodd yn eiriolwr mor effeithiol drostynt.”

Roedd Denise Idris Jones yn Aelod dros etholaeth Conwy rhwng 2003 a 2007.