Teyrngedau i Carl Sargeant ac ailddechrau busnes y Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/11/2017

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal munud o dawelwch yn y Senedd heddiw er cof am Carl Sargeant, yr Aelod Cynulliad a fu farw wythnos diwethaf.

Bydd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad, yn dechrau'r Cyfarfod Llawn am 12.30, cyn galw am funud o dawelwch a fydd yn dechrau ac yn gorffen wrth i gloch y Senedd seinio.

Yna, bydd y Llywydd yn gwahodd arweinwyr y pleidiau ac Aelodau'r Cynulliad i siarad.

Mae awr wedi'i neilltuo ar gyfer y teyrngedau, ond bydd yr amserlen yn hyblyg. Bydd y Llywydd yn dirwyn y sesiwn i ben cyn galw am egwyl tan 14.00.

Ar ôl hynny, bydd busnes ffurfiol y Cynulliad yn ailddechrau, gan ddechrau gyda'r cwestiynau i'r Prif Weinidog.

Bydd cyfarfodydd y pwyllgorau yn ailddechrau ddydd Mercher 15 Tachwedd.

Cyhoeddir agendâu'r cyfarfodydd hyn ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Hoffem atgoffa'r cyhoedd fod llyfr o gydymdeimlad wedi'i agor ar gyfer ymwelwyr â'r Senedd.

Mae'r agenda ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw ar gael yma.