Tîm pêl-droed y Cynulliad yn helpu i drechu canser y prostad

Cyhoeddwyd 18/04/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Tîm pêl-droed y Cynulliad yn helpu i drechu canser y prostad

18 Ebrill 2013

Bydd tîm pêl-droed Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi ymgyrch y Post Brenhinol i gefnogi elusen Canser y Prostad drwy chwarae gêm elusennol yn eu herbyn ddydd Gwener 19 Ebrill.

Mae'r ornest yn rhan o ymgyrch y Post Brenhinol i godi arian i helpu Prostate Cancer Uk, sy'n cynnwys cyhoeddi recordiad o Gôr y Post Brenhinol yn canu fersiwn elusennol o'r anthem bêl-droed, Abide with Me.

Mae'r gân ar gael i'w llwytho oddi ar iTunes ac Amazon MP3, a bydd y Post Brenhinol yn rhoi £1 i'r elusen ar gyfer pawb sy'n llwytho'r gân.

Cynhelir yr ornest godi arian yn Stadiwm Lecwydd yng Nghaerdydd am 15.30, a bydd holl elw'r gêm hefyd yn mynd tuag at yr elusen canser y prostad yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Canser y Prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymysg dynion, a cheir dros 40,000 diagnosis newydd o'r afiechyd yn y DU bob blwyddyn.

“Felly rwy'n falch bod tîm pêl-droed y Cynulliad yn helpu i godi arian i drechu'r afiechyd.

“Ewch draw i Stadiwm Lecwydd i gefnogi'r achos da hwn, os gallwch.”

Ychwanegodd Kevin Davies, rheolwr y tîm: “Mae tîm y Cynulliad yn falch o gefnogi'r ymgyrch i drechu Canser y Prostad.

“A byddem yn croesawu pob cefnogaeth yn ystod y gêm, i aelodau'r tîm ac i'r elusen.”

Dywedodd Mike Norman o Ganolfan Bost Caerdydd: “Yng Nghymru fe wnaethom drefnu ein Gêm Gwpan gyfeillgar ein hunain i gefnogi'r record sengl elusennol, Abide with Me, sy'n ein hatgoffa i'r fath raddau o ornestau terfynol yn Wembley.

“Rydym wrth ein bodd bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno i gymryd rhan yn y gêm bêl-droed, a chefnogi'r achos teilwng hwn.

“Bydd pob chwaraewr o gymorth i wneud gwir wahaniaeth i waith Prostate Cancer UK i gefnogi dynion yr effeithir arnynt gan yr afiechyd, a'u teuluoedd. Rydym yn annog ein cymuned leol i lwytho'r gân oddi iTunes er mwyn ein helpu i godi cymaint o arian ag sy'n bosibl ar gyfer yr elusen.”