Tlodi yng Nghymru – adroddiad cryno

Cyhoeddwyd 07/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/09/2015

​Ym mis Mehefin eleni, mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi pryderon difrifol am y diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi yng Nghymru, er gwaethaf ymrwymiad a buddsoddiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor o'r farn bod hyn yn bennaf oherwydd bod y Llywodraeth yn ceisio trin symptomau tlodi yn hytrach na mynd i'r afael â'i achosion sylfaenol.

Oherwydd y newidiadau i'r farchnad lafur, nid yw gweithio bellach yn ffordd syml allan o dlodi. Mae'r Pwyllgor wedi argymell, am fod hanner y bobl sy'n byw mewn tlodi yn byw ar aelwydydd sy'n gweithio, y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei dylanwad ar y rhan honno o'r farchnad lafur lle mae'r sgiliau'n isel er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl sy'n dioddef tlodi mewn gwaith.

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi fersiwn cryno o'r adroddiad i'r rhai sydd am ei ddarllen yn gyflym ar eu ffôn neu dabled. Cliciwch ar y linc neu'r ddelwedd isod i weld yr adroddiad cryno: Sut y gellir lleihau tlodi yng Nghymru

 

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad (PDF, 807KB) a crynodeb o'i gasgliadau a'i argymhellion (PDF, 364KB) ar Dlodi yng Nghymru: Tlodi ac Anghydraddoldeb