Trafod ar y Maes - Y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio rhaglen o ddigwyddiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddwyd 25/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2015

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ategu ei ymrwymiad i ehangu ei ymgysylltiad â phobl Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni.

Mae cynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad yn y broses ddemocrataidd yn un o amcanion strategol craidd Comisiwn y Cynulliad yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.

Fel rhan o ymrwymiad hwnnw, mae'r Cynulliad wedi trefnu cyfres o drafodaethau panel am faterion sy'n effeithio ar gymunedau ledled Cymru.

Bydd trafodaeth banel ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru, ar 4 Awst, sef y cyntaf mewn rhaglen o ddigwyddiadau i nodi can mlynedd ers dechrau'r rhyfel.

Bydd hefyd sesiwn ar ddyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol.

Bydd sesiynau panel eraill yn trafod y carchar mawr newydd yn Wrecsam, mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru, a thrafodaeth wedi'i arwain ar fenywod yn y celfyddydau, fel rhan o raglen menywod mewn bywyd cyhoeddus y Llywydd.

Dyma'r rhaglen lawn:

Dydd Llun 4 Awst

Amser: 14.00–15.00

Digwyddiad: Can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf - Cofio, dysgu, deall, galaru.

Trefnir gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Lleoliad: Pabell y Cymdeithasau 1

Siaradwyr

  • David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  • Lyn Lewis Dafis - Pennaeth Datblygu Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Dr Gethin Matthews - Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

  • Aled Eirug - Myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd

Bydd y Dirprwy Lywydd yn lansio rhaglen ddigwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i nodi can mlynedd ers cychwyn y rhyfel byd cyntaf. Yna ceir trafodaeth banel o dan gadeiryddiaeth Lyn Lewis Dafis.

Dydd Mawrth 5 Awst

Amser: 12.30–13.30

Digwyddiad: Menywod yn y Celfyddydau: A yw Cymru yn arwain y ffordd?

Trefnir gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Lleoliad: Pabell y Cymdeithasau 2

Siaradwyr

  • Yr Athro Elan Closs Stephens - Cadeirydd Cyngor Cynulleidfa Cymru ac Ymddiriedolwr Cenedlaethol ar gyfer BBC Cymru

  • Mari Emlyn - Cyfarwyddwr Artistig, Y Galeri, Caernarfon.

  • Marian Wyn Jones - Ymgynghorydd y Wasg a'r Celfyddydau

  • Elen ap Robert - Cyfarwyddwr artistig canolfan Pontio

Bydd yr Athro Elan Closs Stephens yn cadeirio trafodaeth ar y berthynas rhwng menywod a'r celfyddydau yng Nghymru. Bydd y drafodaeth yn holi pam fod nifer cymharol fawr o arweinwyr mewn sefydliadau celfyddydol yn fenywod ond mae'r ystadegau'n dangos bod llai o fenywod yn cymryd rolau arweiniol mewn sefydliadau eraill. Bydd y panel yn trafod a all diwydiannau lle mae dynion yn fwyaf blaenllaw yn draddodiadol ddysgu oddi wrth y celfyddydau yn hyn o beth.

Bydd y panel hefyd yn trafod a yw menywod sy'n arwain sefydliadau celfyddydol yn dal i gael cyfle i fod yn artistiaid, ac a ydynt yn gallu cynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Ceir sesiwn holi ac ateb ar ôl y drafodaeth.

Dydd Mercher 6 Awst

Amser: 13.00–14.00

Digwyddiad: Carchar Wrecsam - Syniad da neu wael?

Trefnir gan: Canolfan Llywodraethiant Cymru a Phrifysgol Caerdydd

Lleoliad: Pabell y Cymdeithasau 1

Siaradwyr:

  • Lleu Williams - Canolfan Llywodraethiant Cymru

  • Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd AS - Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionydd

  • Y Parchedig Nan Wyn Powell Davies

  • Winston Roddick CF - Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru

  • Jamie Bevan - ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg

Yn dilyn gwaith ymchwil a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y digwyddiad hwn yn gofyn a yw 'carchar mawr iawn' newydd Wrecsam yn syniad da ai peidio. Bydd Lleu Williams o'r Ganolfan yn siarad ag Elfyn Llwyd yr Aelod Seneddol dros Blaid Cymru, y cyn-gaplan carchar, Nan Powell Davies; Winston Roddick CF, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru; a Jamie Bevan, yr ymgyrchydd dros y Gymraeg.

Dydd Iau 7 Awst

Amser: 12.00 – 13.00

Digwyddiad: Llwyfan byd-eang i'r Gymraeg - yr iaith mewn oes ddigidol

Trefnir gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Lleoliad: Pabell y Cymdeithasau 1

Siaradwyr:

  • Rhodri Glyn Thomas AC - Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros Ieithoedd Swyddogol yn y Cynulliad

  • Rhodri ap Dyfrig - Arbenigwr mewn Cyfranogi Digidol

  • Geraint Wyn Parry - Prif Weithredwr, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

  • Huw Marshall - Rheolwr Digidol, S4C

  • Gareth Morlais - Pennaeth yr Uned Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Bydd y panel o arbenigwyr yn trafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn yr oes ddigidol. Prif fyrdwn y drafodaeth fydd edrych ar sut y bydd newidiadau yn y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth yn effeithio ar ieithoedd fel y Gymraeg, a sut y gall ieithoedd o'r fath addasu i ddatblygiadau technolegol.