Trafodaeth adeiladol rhwng y Llywydd a'r Ysgrifennydd Gwladol ar ddiwygio cyfansoddiadol

Cyhoeddwyd 24/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Heddiw, cyfarfu'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â Stephen Crabb AS, yr Ysgrifennydd Gwladol, i drafod cynigion Llywodraeth San Steffan ar gyfer datganoli pellach i Gymru.

Dywedodd y Llywydd: "Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

"Mae'n hanfodol bod llais y Cynulliad yn cael ei glywed yn y trafodaethau am ddyfodol datganoli yng Nghymru.

"Mae'r Ysgrifennydd Gwladol a minnau am weld setliad sy'n darparu ar gyfer pobl Cymru.

"Er mwyn sicrhau hynny mae angen y pwerau cywir, y gallu cywir a mwy o ryddid arnom i wneud ein penderfyniadau ein hunain am y ffordd yr ydym yn rhedeg ein democratiaeth."

Yn ystod y cyfarfod, canolbwyntiodd y Llywydd ar y materion canlynol:

  • Pwerau a gedwir yn ôl – bydd symud i fodel pwerau a gedwir yn ôl yn helpu i chwalu peth o'r ansicrwydd o ran rôl a chyfrifoldebau'r Cynulliad. Bydd yn caniatáu i'r Cynulliad ddeddfu yn fwy effeithiol ac yn fwy hyderus;
  • Gallu - Mae'r Llywydd wedi bod yn galw ers tro i gynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad i o leiaf 80 er mwyn sicrhau bod gennym y gallu i ddatblygu'r arbenigedd angenrheidiol sydd ei angen i ddwyn Gweinidogion y Llywodraeth i gyfrif mewn ffordd gadarn o ran eu cynigion codi trethi, deddfu a pholisi;
  • Sofraniaeth - dylai'r Cynulliad fod yn gallu penderfynu ar ei ddyfodol ei hun a bod â rheolaeth dros y penderfyniadau ar faterion fel enw'r Cynulliad a'i drefniadau etholiadol a'i reolau mewnol, yn hytrach na San Steffan, ac fe ddylai greu'r cyfreithiau gorau posibl i bobl Cymru.

Presiding Officer Rosemary Butler sitting at a table with Stephen Crabb, Secretary of State 

Llun o’r Fonesig Rosemary Butler AC gyda Stephen Crabb AS