Trosglwyddo deiseb: Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2016

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael deiseb sy’n galw am fargen deg ar gyfer ralïo mewn coedwigoedd yng Nghymru.

Dywed y ddeiseb:

“Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y gost o ddefnyddio ffyrdd mewn coedwigoedd yng Nghymru at ddibenion ralïo ceir yn deg ac yn gydnaws â’r costau a geir yn Lloegr a’r Alban.

“Byddai’r gost gyfredol yng Nghymru yn dyblu o dan strwythur prisio arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru, a fyddai’n dod i rym ym mis Mehefin 2016. Mae hyn yn gwbl groes i’r contractau cyfatebol newydd y mae’r comisiynau coedwigaeth wedi’u rhoi ar waith yn Lloegr a’r Alban.

“Tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio dyblu’r costau hyn yng Nghymru, bydd costau yn Lloegr a’r Alban ond yn cynyddu 0.7% (o’u cymharu â’r contract blaenorol).

“Mae’r diwydiant ralïo yng Nghymru, sydd werth £15 miliwn, yn dod â buddion twristiaeth di-ri i gefn gwlad Cymru. O dan y drefn gostau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio ei chyflwyno, byddai cynnal digwyddiadau yng Nghymru yn anghynaliadwy yn y dyfodol oherwydd y costau uchel. Rydym yn gofyn am gynnal ymchwiliad llawn i’r mater hwn er mwyn canfod pam mae’r costau arfaethedig hyn wedi chwyddo cymaint o’u cymharu â rhanbarthau eraill.”

Cyflwynwyd y ddeiseb, a gasglodd dros 5,200 o lofnodion, i Aelodau’r Pwyllgor Deisebau ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.