Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach – Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 28/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Trosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach'

Yn ôl Mr Ramsay:

"Mae gan y sector addysg bellach rôl sylweddol i'w chwarae o ran galluogi pobl ifanc ac oedolion i wireddu eu potensial ac o ran creu gweithlu medrus.

"Mae'n bwysig, felly, fod ein colegau addysg bellach yn ariannol hyfyw a'u bod yn perfformio'n dda. 

"Mae'r sector wedi dangos gwytnwch yn ei ymateb i ostyngiadau diweddar yn y cyllid a geir gan Lywodraeth Cymru, drwy gynnal ei berfformiad academaidd a chadw ei gyllid o dan reolaeth yr un pryd. 

"Ond nid yw hyn wedi dod heb gost sylweddol; tynnwyd llawer o ddarpariaeth ran-amser yn ôl a chollwyd staff profiadol. 

"Mae newid o ran galw ac o ran polisi, ynghyd â chostau cynyddol, yn heriau sylweddol i gynaliadwyedd colegau yn y dyfodol fel rhan o system addysg ôl-16 ehangach yng Nghymru.

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ac ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol, yn fwy manwl cyn bo hir."