Tystiolaeth glir ac amlwg fod y Senedd yn rhy fach – y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd

Cyhoeddwyd 10/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munud

Gyda misoedd olaf y pumed Senedd ar y gorwel cyn yr etholiad yn 2021, mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn argymell gwneud diwygiadau pellgyrhaeddol i strwythur y sefydliad, gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau, cael system etholiadol newydd a chyflwyno mesurau i wella amrywiaeth.

Y Senedd, Bae Caerdydd

Mae adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn cynnwys cyfres o argymhellion a luniwyd at ddibenion 'cryfhau ein democratiaeth yng Nghymru'.

Mae'r diwygiadau a argymhellir yn dod yn sgil Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, sy'n ymestyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd i bobl 16 a 17 oed. Daeth y Ddeddf hon yn gyfraith yn gynharach eleni. Ym mis Mai 2020, newidiodd enw'r ddeddfwrfa'n ffurfiol i Senedd Cymru/Welsh Parliament, gan adlewyrchu ei lle yn nhirwedd gyfansoddiadol y DU a chynnig mwy o eglurder ar ei rôl a'i chyfrifoldebau.

Y llynedd, penderfynodd y Senedd fod angen mwy o Aelodau, ond bod angen rhagor o waith i drafod sut y gellid cyflawni hynny. Crëwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd i drafod argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad a thrafod faint o Aelodau y mae ar y Senedd eu hangen a sut y dylid ethol yr Aelodau hynny, yn ogystal ag edrych ar amrywiaeth y Senedd.

Rôl y Pwyllgor oedd adrodd ar y materion cyfansoddiadol allweddol hyn gyda'r nod o sicrhau bod y Senedd yn gweithredu'n effeithiol ar ran pobl Cymru. Mae'r Pwyllgor wedi gwneud hynny heddiw, ond mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith anorfod ar waith y Pwyllgor, yn sgil y ffaith bod Aelodau a Phwyllgorau'r Senedd wedi bod yn canolbwyntio ar y gwaith o graffu ar ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r feirws.

Fodd bynnag, mae'r pandemig hefyd wedi dangos sut y gall y Senedd weithredu mewn ffordd wahanol, ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i weld sylw yn cael ei roi i'r mater hwnnw. Mewn cyfnod o argyfwng, mae'r Senedd wedi gwneud addasiadau radical i'r ffordd y mae'n gweithredu, ac mae'r Pwyllgor yn credu y gellir dysgu gwersi gwerthfawr o'r broses honno.

Mwy o Aelodau

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn fuan ar ôl etholiad 2021 i gynyddu maint y Senedd i fod rhwng 80 a 90 Aelod (o'r 60 presennol), gan ddod i rym o etholiad 2026 ymlaen. Mae'r argymhelliad hwn yn ategu'r argymhellion a wnaed yn 2017 gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.

Ymhlith y rhesymau a amlinellwyd gan y Pwyllgor dros gefnogi cynnydd ym maint y Senedd oedd y pwysau ar amser yr Aelodau wrth iddynt wasanaethu cyfrifoldebau cynyddol y Senedd—sefyllfa a gafodd ei chadarnhau gan nifer o dystion a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad. Ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999 mae'r sefydliad wedi newid, gan arwain at bwysau cynyddol ar ei 60 Aelod. Bellach, mae ganddo bwerau deddfu sylfaenol a phŵer dros rai cyfraddau treth. Yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, mae'n debygol y bydd gan y Senedd hyd yn oed fwy o gyfrifoldebau.

System etholiadol newydd

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid cyflwyno deddfwriaeth ar ôl etholiad 2021 i ddarparu bod Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol drwy system etholiad y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) o 2026 ymlaen. Mae hon yn system bleidleisio gyfrannol sydd wedi'i llunio at ddibenion sicrhau cynrychiolaeth gyfrannol, neu rywbeth tebyg i hynny, drwy ganiatáu i etholwyr roi ymgeiswyr yn eu trefn.

Y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy oedd yr opsiwn a ffafriwyd yn glir gan nifer o'r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad y Pwyllgor. Tynnodd rhanddeiliaid sylw at y gostyngiad posibl mewn pleidleisiau 'gwastraff' neu bleidleisio tactegol, a'r fantais o gynnal cysylltiad etholaethol clir rhwng pleidleiswyr a'u cynrychiolwyr (a nodir fel mantais allweddol yn aml o system etholiadol y Cyntaf i'r Felin).

Ym marn y Pwyllgor:

  • Dylai fod yn syml i bleidleiswyr gwblhau eu papurau pleidleisio, a dylai fod cysylltiad etholaethol clir rhwng etholwyr a'u cynrychiolwyr

  • Dylid troi pleidleisiau'n seddau'n deg, a dylai'r system etholiadol gynhyrchu canlyniadau cyfrannol yn gyffredinol

  • Dylai pob Aelod gael ei ethol ar yr un llwybr er mwyn rhoi terfyn ar y ddadl reolaidd ynghylch a yw Aelodau rhanbarthol yn atebol i bleidleiswyr neu bleidiau

  • Dylai system etholiadol y Senedd weithredu ar sail etholaethau aml-aelod. Byddai hyn yn cynnig mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn galluogi pleidiau i gyflwyno sawl ymgeisydd, gan ganiatáu iddynt amrywio eu prosesau dethol. Yn ei dro, byddai hynny'n annog Senedd fwy amrywiol i'w hethol

Amrywiaeth

Mae'r Pwyllgor o'r farn bod gwaith craffu, y gynrychiolaeth a'r broses o wneud penderfyniadau yn well lle ceir amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol, a phan ellir elw ar ystod o brofiadau uniongyrchol. Mae hefyd o'r farn y dylai deddfwrfeydd fod yn fannau cynhwysol lle y gall y bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu.

Mae'r Pwyllgor am i bob un yng Nghymru allu teimlo y gall sefyll etholiad heb wynebu rhwystrau anghymesur o ganlyniad i'w hunaniaeth groestoriadol ei hun.

Mae'r ymwybyddiaeth gynyddol o hiliaeth strwythurol a gwahaniaethu yn dilyn protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys a'r newidiadau sylweddol i'r ffyrdd o weithio a fabwysiadwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19 wedi dangos y gellir gwneud cynnydd radical pan fo sbardun clir a diben cyffredin. Mae'r Pwyllgor o'r farn mai dyma'r amser i sianelu'r momentwm hwnnw a'r parodrwydd i arloesi a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo y gallant ymgysylltu â'n prosesau a'n sefydliadau democrataidd a chymryd rhan ynddynt.

Mae'r Pwyllgor wedi amlinellu cyfres o argymhellion ar gyfer gweithredu cadarnhaol er mwyn gwella amrywiaeth y Senedd drwy oresgyn anghydraddoldebau a rhwystrau strwythurol, gan gynnwys y camau a ganlyn:

  • Sefydlu cronfa mynediad at swydd etholedig er mwyn helpu pobl ag anableddau i sefyll etholiad

  • Darparu cymorth i ymgeiswyr â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill drwy eithrio'r treuliau hyn o dreuliau etholiadol

  • Ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, a'i gwneud yn ofynnol iddynt gasglu data, gwneud data'n ddienw, a chyhoeddi data am amrywiaeth eu hymgeiswyr

  • Gwneud gwaith trawsbleidiol pellach ar sut y gallai trefniadau rhannu swyddi ar gyfer rolau etholedig weithio'n ymarferol

Dywedodd Dawn Bowden AS, Cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd:

"Yn amlwg, ein prif flaenoriaeth fel Aelodau'r Senedd dros y cyfnod hwn yw'r ymateb i bandemig COVID-19. Rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar y dasg o graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig a'r dasg o ofyn cwestiynau pwysig am y cymorth sydd ar gael i bobl a busnesau.

"Mae'r ffordd y mae ein Senedd yn gweithredu wedi cael ei rhoi o dan y chwyddwydr yn fwy nag erioed yn ystod yr argyfwng hwn. Gydag Aelodau'r Senedd a staff yn gweithio gartref, mae'r broses o ail-flaenoriaethu busnes y Cyfarfod Llawn a busnes y Pwyllgorau, gan ddefnyddio technoleg er mwyn parhau i weithredu o bell a datblygu ffyrdd newydd o weithio, wedi bod yn brawf o gapasiti'r Senedd.

"Mae datganoli wedi bod yn daith gyffrous, ac mae'r Senedd sydd gennym heddiw yn edrych yn hollol wahanol i'r sefydliad a gafodd ei greu dros 20 mlynedd yn ôl. Gyda'i phwerau a'i chyfrifoldebau estynedig, mae'r Senedd bellach yn gwneud penderfyniadau ar gyfreithiau sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywydau pobl ac yn gyfrifol am bennu rhai cyfraddau treth.

"Credwn y byddai pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu'n well gan Senedd sydd â'r nifer cywir o Aelodau. Byddai Senedd fwy yn gost-effeithiol, gan y byddai'r Aelodau'n gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn well o ran ei gwariant a'i phenderfyniadau, ac yn gallu pasio gwell deddfwriaeth, yn ogystal â helpu pobl ledled Cymru gyda'u problemau.

"Dylai cynyddu nifer Aelodau'r Senedd fynd law yn llaw â chynyddu amrywiaeth y sefydliad. Mae ein Senedd yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru. Dylai pobl a chymunedau amrywiol ein gwlad fod yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn ei haelodaeth.

"Heddiw rydym yn gwneud argymhellion clir ar gyfer diwygio ein Senedd a sicrhau bod y sefydliad yn addas ar gyfer y dyfodol, gan roi gwir hyder i bobl Cymru am eu Senedd."

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad:

"Rwy'n croesawu adroddiad y Pwyllgor yn fawr, gan ei fod yn cynrychioli'r cam nesaf yn y broses o greu Senedd sy'n addas at y diben ac sy'n gallu gweithredu'n effeithiol ar ran pobl Cymru. Ni fydd y drafodaeth ynghylch maint y sefydliad yn diflannu, ac mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn cyn gynted ag y bo modd.

"Mae'r digwyddiadau a welwyd yn ddiweddar, gan gynnwys y pandemig ac ymadawiad Prydain â'r UE, wedi taflu goleuni pellach ar y mater o gael capasiti priodol i graffu ar weithredoedd y Llywodraeth ac asiantaethau eraill. Bydd gwaith craffu effeithiol yn talu am ei hun.

"Rwy'n falch iawn hefyd bod y Pwyllgor wedi atgyfnerthu ymrwymiad y Panel Arbenigol i greu system etholiadol fwy cyfrannol er mwyn ethol Senedd sy'n fwy o faint. Dylai mandadau cyfartal, dewis pleidleiswyr ac amrywiaeth fod wrth wraidd system etholiadol newydd. Rwyf hefyd yn awyddus i weld y mater o gwotâu deddfwriaethol yn cael ei gadw ar agenda ddiwygio pawb. Byddai proffil cyhoeddus a hygrededd y Senedd, ynghyd â'i heffeithiolrwydd, yn cael eu gwella drwy 'bobi' amrywiaeth i mewn i'w gynlluniau ar gyfer ehangu a diwygio."

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5 MB)