Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn argymell newidiadau pwysig i awdurdodaeth bresennol Cymru a Lloegr
13 Rhagfyr 2012
Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dod i'r casgliad y bydd angen diwygio'r system bresennol, lle mae Cymru'n cael ei chynnwys yn yr un awdurdodaeth â Lloegr, er mwyn adlewyrchu hunaniaeth gyfreithiol Cymru sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn credu y bydd hunaniaeth gyfreithiol Cymru yn parhau i dyfu wrth i'r Cynulliad Cenedlaethol basio cyfreithiau newydd, yn dilyn canlyniad y refferendwm ym mis Mawrth 2011.
Er nad oedd yn ystyried y cwestiwn a ddylai
Cymru gael ei system gyfreithiol ar wahân ei hun, nododd y Pwyllgor bod rhaid i unrhyw drafodaeth neu ddadl sy'n arwain at benderfyniad o'r fath gynnwys barn pobl Cymru ac ymgysylltu â nhw.
Daeth hefyd i'r casgliad, er bod awdurdodaeth ar wahân i Gymru yn ymarferol yn gyfansoddiadol, fod y cwestiwn a ddylid sefydlu awdurdodaeth neu beidio, yn y pen draw, yn benderfyniad gwleidyddol ac y bydd yr union fanylion am sut y dylid ei sefydlu yn fater ar gyfer trafodaeth wleidyddol yn y dyfodol.
Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: "Mae'r Pwyllgor yn credu bod system awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru yn ymarferol yn gyfansoddiadol, ond mae'r cwestiwn a ddylid sefydlu awdurdodaeth neu beidio, yn y pen draw, yn benderfyniad gwleidyddol.
"Daeth yn amlwg yn ystod ein hymchwiliad, fodd bynnag, y bydd y ffaith fod hunaniaeth gyfreithiol Cymru yn dod i'r amlwg yn golygu newidiadau ymarferol i'r system bresennol yn y tymor byr.
"Byddai mantais ychwanegol o wneud hyn, sef y byddai symud i awdurdodaeth ar wahân yn haws yn y dyfodol os bydd penderfyniad o'r fath yn cael ei wneud.
"Ond mae angen i'r drafodaeth ynghylch y penderfyniad hwnnw gynnwys pobl Cymru a rhaid iddi fod o fudd amlwg iddynt.
“Rydym yn gobeithio y bydd ein canfyddiadau yn helpu i roi hwb cychwynnol i'r drafodaeth ledled Cymru ac y bydd yn helpu i lywio trafodaethau Llywodraeth Cymru ar y mater hwn."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 5 o argymhellion yn ei adroddiad, sy'n ceisio sicrhau bod camau ymarferol yn cael eu cymryd o fewn y strwythurau presennol i wneud y broses o weinyddu cyfiawnder yn fwy ymatebol i anghenion Cymru:
Wrth i gorff o gyfreithiau Cymreig esblygu dros amser, rydym yn argymell y dylai hyfforddiant cyfreithiol ychwanegol gael ei drefnu er mwyn caniatáu i arbenigedd ddatblygu, gan adlewyrchu traddodiadau cyfreithiol Cymru a'i hunaniaeth gyfreithiol newydd. Dylai hyn gynnwys codi ymwybyddiaeth yn Lloegr ynghylch yr ymwahanu cynyddol rhwng cyfreithiau sy'n gymwys yng Nghymru a Lloegr
Rydym yn argymell bod y Rheolau Trefniadaeth Sifil yn cael eu diwygio i sicrhau bod achosion y gyfraith gyhoeddus sy'n ymdrin â materion Cymreig yn bennaf yn cael eu cychwyn yn y llys gweinyddol yng Nghaerdydd yn gyffredinol, neu eu trosglwyddo i'r llys hwn.
Rydym yn argymell y dylid sefydlu corff i adolygu a chynorthwyo â chydgrynhoi cyfraith Cymru. Gallai corff o'r fath naill ai fod yn rhan o Gomisiwn y Gyfraith presennol ar gyfer Cymru a Lloegr neu'n gorff gwbl newydd
Rydym yn argymell y dylid sefydlu rhagdybiaeth o blaid cychwyn a chynnal gwrandawiadau pob achos, mewn llysoedd yng Nghymru, sy'n ymwneud â chyfreithiau a wnaed yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
Rydym yn argymell y dylid penodi uwch farnwr sydd â phrofiad o ddatganoli yng Nghymru a chyfraith Cymru i'r Goruchaf Lys.
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru