Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

Cyhoeddwyd 30/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

30 Mawrth 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

Canfu’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol bod mwyafrif o’r tystion a ymatebodd i’r ymgynghoriad o blaid Bil Llywodraeth Cymru, sef y cyntaf i gael ei osod gerbron y Cynulliad ers yr etholiad ym mis Mai y llynedd.

Nod y Bil yw rhoi effaith i gynigion Llywodraeth Cymru i symleiddio gweithdrefnau ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau llywodraeth lleol.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud wyth argymhelliad yn ei adroddiad Cyfnod 1. Yn eu plith, mae’n argymell:

  • Bod cynghorau tref a chymuned yn cael eu hysbysu pan fydd is-ddeddf sy’n effeithio arnyn nhw yn cael ei dirymu;

  • Cynyddu’r cyfnod ymgynghori ar gyfer is-ddeddf o un mis i chwe wythnos;

  • Bod y Gweinidog yn parhau i gydgysylltu â Phrif Gwnstabliaid Cymru er mwyn sicrhau cysondeb o fewn rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ledled Cymru.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae’r Pwyllgor yn falch o gefnogi’r Bil hwn.”

“Mae cael gwared â’r gofyniad ar Weinidogion Cymru i gadarnhau is-ddeddf a’r dulliau amgen o orfodi yn sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru mewn sefyllfa well i ymdrin â’r materion sy’n effeithio arnynt.”

Os yw’r Cynulliad cyfan yn cefnogi’r Bil yn ystod y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn, bydd y Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2 o’r broses ddeddfu sef cyfnod lle rhoddir ystyriaeth fwy manwl i’r Bil.