Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi galwad am sefyllfa gyfartal â rhannau eraill o’r DU o ran polisi ynni

Cyhoeddwyd 17/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi galwad am sefyllfa gyfartal â rhannau eraill o’r DU o ran polisi ynni

17 Hydref 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi galwadau y dylai Cymru gael yr un pwerau a chyfrifoldebau â rhannau eraill o’r DU o ran ynni a pholisi a chynllunio, neu bwerau a chyfrifoldebau tebyg.

Mewn adroddiad dilynol i’r adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd, roedd y mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, y dylai caniatâd ar gyfer cynhyrchion ar y tir ar raddfa fawr, a chynhyrchion ar y môr sy’n gysylltiedig ag ynni gael ei ddatganoli i Gymru, ynghyd â Thystysgrifau Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy a Thariffau Cyflenwi Trydan, a ddefnyddir i ddarparu cefnogaeth ariannol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynigion o’r fath yn ei thystiolaeth ar gyfer rhan 2 o waith Comisiwn Silk, sy’n edrych ar y pwerau a gaiff eu datganoli i Gymru.

Aeth tystiolaeth Llywodraeth y DU gam ymhellach, a gofyn bod y cyfrifoldeb dros ddatblygiadau sy’n gysylltiedig â Phrosiectau Seilwaith Strategol Cenedlaethol yn cael ei gymryd oddi ar awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru a’i roi i’r Arolygiaeth Gynllunio. Yn nwylo Ysgrifennydd Gwladol y DU y byddai’r cyfrifoldeb yn y pen draw, fodd bynnag.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu’n benodol am y farn hon.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Cynhyrchu ynni yw un o flaenoriaethau pwysicaf y DU dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae cyflawni’r ddelfryd o gynhyrchu ynni fforddiadwy a chynaliadwy, sy’n diwallu gofynion y byd modern yn ofnadwy o anodd.

“Ond rhwystrir y dasg hon ymhellach yng Nghymru, yn rhinwedd y ffaith nad oes ganddi’r un pwerau, na phwerau tebyg, ar gael iddi â rhannau eraill o’r wlad.

“Yr hyn sy’n ein pryderu’n fawr yw cred Llywodraeth y DU mai’r Ysgrifennydd Gwladol a ddylai gael y pwerau o ran Prosiectau Seilwaith Strategol Cenedlaethol yn y pen draw, a thybed a fyddai’n defnyddio dull tebyg o ran y cenhedloedd datganoledig eraill?”

Bu’r Pwyllgor hefyd yn ymchwilio i ba mor ymarferol yw cynhyrchu ynni drwy nwy anghonfensiynol, gan nodi cred Llywodraeth y DU bod posibilrwydd y gallai nwy siâl ddarparu mwy o sicrwydd, twf a swyddi o ran ynni i’r DU.

Daeth i’r casgliad nad yw datblygu diwydiant ynni arall sy’n ddrud-ar-garbon yn briodol yn awr, ac nad yw’n gyson ag ymrwymiadau’r DU a’r UE i leihau allyriadau.

Fodd bynnag, o ystyried safbwynt Llywodraeth y DU a’r ffaith bod trwyddedau chwilio eisoes wedi’u rhoi ar gyfer rhannau o Gymru, roedd y Pwyllgor o’r farn ei bod yn bwysicach fyth erbyn hyn fod Llywodraeth Cymru yn dilyn esiampl Lloegr ac yn cyhoeddi canllawiau cynllunio manwl i fynd i’r afael â cheisiadau cynllunio ar gyfer chwilio am nwy anghonfensiynol, a’i ddefnyddio.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC: “Ni chlywsom ddim tystiolaeth bendant sy’n awgrymu bod newid yn y farn bod datblygu diwydiant ynni arall sy’n ddrud-ar-garbon yn briodol yn awr o ran ymrwymiadau’r DU a’r UE i leihau allyriadau.

“Rydym hefyd yn pryderu o hyd nad yw’r materion diogelwch sy’n gysylltiedig â thorri hydrolig, neu ffracio, wedi cael sylw digonol, ac rydym o’r farn ei bod yn bwysig bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynegi ei safbwynt yn glir ar unwaith.”

“Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu parhau i ymchwilio i fater polisi ynni a chynllunio drwy gydol cyfnod y Cynulliad presennol.”

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor i bolisi ynni a chynllunio, gan gynnwys ei adroddiad cyntaf.