Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn croesawu gwelliannau i wasanaethau cadeiriau olwyn ond yn dweud bod angen gwell dulliau cyfathrebu a chynllunio strategol strategic planning is needed

Cyhoeddwyd 13/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn croesawu gwelliannau i wasanaethau cadeiriau olwyn ond yn dweud bod angen gwell dulliau cyfathrebu a chynllunio strategol

13 Awst 2012

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ddulliau cyfathrebu a chynllunio strategol mwy effeithiol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru yn dal i wella ac ymestyn yn y dyfodol.

Ar 8 Mawrth 2012, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad un-dydd i wasanaethau cadeiriau olwyn, er mwyn ystyried i ba raddau y cafodd yr argymhellion a wnaed mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan ei ragflaenydd, y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, eu gweithredu.

Roedd adroddiad y Pwyllgor blaenorol, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2010, yn sôn am amseroedd aros annerbyniol o hir i unigolion a oedd angen gwasanaethau cadair olwyn, ac nad oedd y gwasanaeth o safon uchel nac ar amser bob amser.

Ar ôl yr ymchwiliad un-dydd, canfu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bod llawer iawn wedi cael ei gyflawni ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ar wasanaethau cadeiriau olwyn, ddwy flynedd yn ôl. Nodwyd gwelliannau amlwg mewn cysylltiad ag amseroedd aros am asesiadau, yn arbennig i blant.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor o’r farn, er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn ymarferol, bod angen gwneud rhagor ar lefel strategol.  

Nododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd nad oedd y gwelliannau i’r gwasanaethau cadeiriau olwyn wedi’u hysbysu’n ddigon da i ddefnyddwyr y gwasanaethau, eu cynrychiolwyr na’u gweithwyr proffesiynol. Mae’n argymell y dylid rhoi sylw ar unwaith i welliannau yn y modd y caiff gwybodaeth ei chyfleu.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  “Gwnaed llawer iawn o waith da ers i adroddiad y Pwyllgor a ddaeth o’n blaen, gael ei gyhoeddi ddwy flynedd yn ôl.  

“Yn anffodus, ni chafodd y cynnydd hwn ei ddwyn i sylw teilwng gan y byd mawr, fel petai, a rhaid i bethau wella.

“Gobeithiwn y bydd yr ymchwiliad ei hun, a’r adroddiad hwn, yn cyfrannu tuag at amlygu’r gwaith a gyflawnwyd gan y rhai sydd wedi gweithio’n galed i greu gwasanaeth gwell, ac yn gosod agenda ar gyfer y dyfodol.”

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad un-dydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru

Gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru: ymchwiliad dilynol