Un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod angen cynllun clir ar entrepreneuriaid ifanc i ganfod eu ffordd drwy fyd cymhleth busnes

Cyhoeddwyd 14/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn datgan bod angen cynllun clir ar entrepreneuriaid ifanc i ganfod eu ffordd drwy fyd cymhleth busnes

14 Tachwedd 2013

Yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, mae angen cynllun clir ar entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru i ganfod eu ffordd drwy gymhlethdodau'r broses o ddechrau eu busnes eu hunain.

Canfu'r Pwyllgor Menter a Busnes fod gwahaniaeth sylweddol rhwng nifer y bobl ifanc sydd am ddechrau eu busnes eu hunain a'r rheini sy'n mynd amdani yn y pen draw.

Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor gan berchenogion busnes ifanc a gyfeiriodd at y diffyg menter o fewn y system addysg yng Nghymru.

Amlygodd yr entrepreneuriaid ifanc hefyd y cyngor a'r wybodaeth anghyson sydd ar gael, yn ogystal â'r ffaith bod gormod o fiwrocratiaeth, anhyblygrwydd ac oedi o ran y systemau grantiau.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: "Cafodd y pwyllgor ei ysbrydoli gan y perchenogion busnes ifanc a gyfrannodd at yr ymchwiliad hwn."

"Gwnaeth ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo entrepreneuriaeth a'r ystod o fentrau sydd wedi'u rhoi ar waith i sicrhau'r nod hwnnw greu argraff arnom hefyd.

"Ond mae'r gwahaniaeth rhwng nifer y bobl ifanc sydd am ddechrau eu busnes eu hunain a'r rheini sy'n gwneud hynny mewn gwirionedd yn peri pryder. Hoffem i Lywodraeth Cymru ganfod pam mae hyn yn digwydd a beth yw'r ffordd orau o ddatrys y broblem.

"Rydym hefyd am weld entrepreneuriaeth yn cael mwy o sylw yn y system addysg yng Nghymru, o ysgolion cynradd i brifysgolion.

"Mae'n amlwg ini fod y byd llawn cyfleoedd a gynigir i'r rheini sydd am ddechrau eu busnes eu hunain yn llawn rhwystrau mewn gwirionedd.


"Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru symleiddio'r broses hon, gan sefydlu siopau un stop lle y gall perchenogion busnes ifanc gael cyngor arbenigol clir."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad, sy'n cynnwys:

  • Ymchwilio i’r diffyg cysylltiad rhwng lefel y diddordeb a’r awydd am entrepreneuriaeth ymysg yr ifanc a nifer gwirioneddol y busnesau a gaiff eu dechrau gan bobl ifanc, a darganfod beth yw’r ffordd orau o gau’r bwlch hwnnw.

  • Sicrhau bod entrepreneuriaeth ac entrepreneuriaeth gymdeithasol yn rhan annatod o’r cwricwlwm mewn addysg gynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch yn hytrach nag yn rhywbeth sydd wedi’i ychwanegu ar y diwedd, gan osod sgiliau mentergarwch wrth galon y system addysg yng Nghymru.

  • Penderfynu pwy ddylai ymgymryd â’r rôl o ddarparu porth cyngor a chyfarwyddyd canolog ar gyfer entrepreneuriaid ifanc a darpar entrepreneuriaid ifanc, a datblygu cynllun o ran yr opsiynau sydd ar gael, ac yna gweithio i sefydlu’r canolfannau hynny ledled Cymru.

Yn ystod ei ymchwiliad, aeth y Pwyllgor i ymweld â Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd a Chlwb Menter Sir y Fflint yng Nglannau Dyfrdwy i gael barn y perchenogion busnes ifanc a'u cynghorwyr a'u mentoriaid.

Gwnaeth tîm allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol hefyd gynnal cyfweliadau ag entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru.

Gellir gwylio fideos o'r cyfweliadau hynny ac ymweliad y Pwyllgor â Sefydliad Alacrity yma.