Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ategu pryderon a fynegwyd ynghylch darpariaeth toiledau cyhoeddus

Cyhoeddwyd 02/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ategu pryderon a fynegwyd ynghylch darpariaeth toiledau cyhoeddus

5 Mawrth 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ategu’r farn bod achos iechyd cyhoeddus yn bodoli o ran gwella darpariaeth toiledau cyhoeddus.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn ymateb i ddeiseb a gyfeiriwyd ato gan y Pwyllgor Deisebau. Dywedodd y ddeiseb honno:

“Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ymchwilio i’r effeithiau posibl ar iechyd a lles cymdeithasol a allai ddeillio o gau toiledau cyhoeddus ac annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus.”

Mae’r Pwyllgor yn cytuno â chasgliadau adroddiad a gyhoeddwyd yn 2009 gan Age Cymru (a elwid gynt yn Help the Aged Cymru), a dynnodd sylw at y ffaith bod y bobl hyn a gymerodd ran mewn arolwg yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i doiledau cyhoeddus, y ffaith nad oedd y toiledau hyn ar agor pan yr oedd eu hangen arnynt, y ffaith nad oedd y cyfleusterau hyn yn aml yn diwallu eu hanghenion, a’r ffaith nad oeddent yn lan nac yn ddiogel.

Rhoddodd tystion wybodaeth i’r Pwyllgor am y lleihad cyffredinol a welwyd yn nifer y cyfleusterau cyhoeddus sydd ar gael. Ategwyd y safbwynt hwn gan Gymdeithas Doiledau Prydain, a ddywedodd bod gostyngiad o oddeutu 40 y cant wedi bod yn nifer y toiledau cyhoeddus yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Nid yw prinder y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn effeithio ar bobl hyn yn unig.”

“Gall fod yn broblem i bobl sydd ag anableddau neu gyflyrau sy’n ymwneud â’r bledren neu’r coluddyn, neu i bobl sydd â phlant ifanc.

“Os nad yw person yn teimlo’n hyderus wrth adael ei gartref heb wybod lle ceir darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus, gallai’r sefyllfa hon achosi iddynt deimlo’n unig neu ynysig, a gallai effeithio ar ei iechyd meddwl a chorfforol.

“Clywsom dystiolaeth hefyd am y ffaith bod darpariaeth annigonol o gyfleusterau cyhoeddus yn gallu arwain at faw ar y stryd, a bod gan hynny sgîl-effeithiau amlwg o ran iechyd amgylcheddol ehangach Cymru.


“Daethom i’r casgliad bod achos iechyd cyhoeddus clir dros sicrhau darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus, a bod nifer o gamau ymarferol y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem hon.

“Gan fod darparu toiledau cyhoeddus yn fater i lywodraeth leol, credwn y gallai arbenigwyr ym maes llywodraeth leol roi ystyriaeth bellach a defnyddiol i’r camau ymarferol hyn.

“Byddwn yn ysgrifennu at Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad, ac at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, er mwyn tynnu eu sylw at ein hadroddiad a sicrhau ei fod yn chwarae rhan mewn unrhyw ystyriaeth bellach a roddir i’r mater hwn.”