Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cefnogi rhoi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd yn ysgolion Cymru

Cyhoeddwyd 31/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cefnogi rhoi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd yn ysgolion Cymru

31 Mai 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi canfyddiadau adroddiad sy’n galw am roi blaenoriaeth i safonau llythrennedd a rhifedd yn ysgolion Cymru.

Roedd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cefnogi’r farn ar blannu sgiliau allweddol a nodwyd gan Estyn, y corff gwarchod addysg, yn ei adroddiad blynyddol.

Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd statudol newydd Llywodraeth Cymru gynnwys canllawiau i athrawon ac arweinyddion ysgolion.  Byddai hyn yn sicrhau bod cyfleoedd i ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd yn cael eu plannu ar draws y cwricwlwm ym mhob Cyfnod Allweddol a bod modelau arferion gorau’n cael eu rhannu.  

Roedd hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, pan fyddant wedi’u sefydlu, i ddarparu cyfleoedd i athrawon ddatblygu’n broffesiynol a’u hannog i fanteisio arnynt.  Byddai hyn yn gwella’u hyder o ran defnyddio’r Gymraeg a’i dysgu fel ail iaith.

“Mae sicrhau bod plentyn yn cyrraedd safon uchel o ran llythrennedd a rhifedd yn ystod ei addysg yn flaenoriaeth fawr, gan y bydd unrhyw dir a gollir yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn yn cael effaith fawr yn ddiweddarach yn ystod ei fywyd, gan niweidio ei ragolygon ar gyfer datblygiad pellach a chyflogaeth, meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.  

“Roedd y Pwyllgor yn bryderus o glywed am y nifer uchel o blant sy’n mynd i Gyfnod Allweddol 3 gydag oed darllen is na’u hoed cronolegol a bod perfformiad rhifedd ymhlith pobl ifanc 14-19 oed yng Nghymru yn is nag yng nghenhedloedd eraill y DU.

“Felly rydym yn cytuno ag Estyn, yr arolygwr addysg, y dylai cyfleoedd i ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd gael eu prif-ffrydio ar draws yr holl Gyfnodau Allweddol yn ysgolion Cymru.  Hefyd dylai modelau arferion gorau gael eu rhannu a’u safoni ar draws Cymru er mwyn hyrwyddo datblygiad yn y meysydd hyn.”

Gwybodaeth am y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Gwybodaeth am Adroddiad Blynyddol Estyn.