Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol ynghylch cynlluniau ar gyfer gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol

Cyhoeddwyd 08/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol ynghylch cynlluniau ar gyfer gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol

08 Tachwedd 2012

Yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, nid yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yn mynd yn ddigon pell.

Mae adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar ganfyddiadau ei ymchwiliad i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yn nodi y dylid cryfhau'n sylweddol y cynigion yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) sydd ar ddod.

Mae'r adroddiad yn nodi y dylai gwasanaeth cenedlaethol newydd fod yn gyfrifol am amryw o agweddau ar fabwysiadu ac y dylid darparu cymorth gwell i deuluoedd sy'n mabwysiadu.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, "Er bod y pwyllgor yn cymeradwyo'r cysyniad sy'n sail i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol, dydyn ni ddim yn teimlo bod y cynigion presennol yn mynd yn ddigon pell."

"Rydym o'r farn y dylai gwasanaeth cenedlaethol fod yn gyfrifol am nifer o'r agweddau ar fabwysiadu, gan gynnwys recriwtio rhieni i fabwysiadu a'u paratoi, gan gyflogi ei staff ei hun yn genedlaethol ac yn rhanbarthol i sicrhau gwasanaeth cyson o safon uchel.

“Clywodd y pwyllgor gan rieni am y profiad cadarnhaol o fabwysiadu a newidiodd eu bywydau er gwell, a bod hynny yn gwrthbwyso'n sylweddol yr heriau niferus gallant eu hwynebu ar hyd y ffordd.

"Er ein bod ni'n derbyn y gall mabwysiadu plentyn sy'n agored i niwed, weithiau, fod yn broses anodd, roedd y rhieni sydd wedi mabwysiadu y siaradom ni â nhw'n sôn am y profiadau gwych, cadarnhaol a gawsant ac yn gobeithio y byddai eraill yn dymuno cael profiad tebyg.

Canfu'r pwyllgor bod anghysondeb o ran dulliau gweithredu mewn gwasanaethau mabwysiadu mewn gwahanol rannau o Gymru. Roedd y gwahaniaethau hyn yn cynnwys y modd y caiff rhieni sy'n mabwysiadu eu recriwtio a'u hasesu a hefyd y cymorth a roddir i rieni ar ôl mabwysiadu. Canfu'r pwyllgor y dylai ysgolion a'r gwasanaethau iechyd meddwl gael rôl mwy wrth gynorthwyo rhai plant sydd wedi'u mabwysiadu. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad hefyd yn cynnwys trafferthion sy'n codi hyd yn oed wrth gofrestru i gael eu hystyried yn rhiant sy'n mabwysiadu.

"Mae angen gwella'r modd y mae gwasanaethau mabwysiadu yn cael eu darparu yng Nghymru. Oni chaiff y cynigion presennol eu newid, byddwn yn colli cyfle i wneud gwelliannau sydd eu hangen yn ddybryd ym mywydau teuluoedd sy'n mabwysiadu a rhai o'r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Gwnaeth y Pwyllgor 16 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylid cryfhau rôl cyflenwi gwasanaeth uniongyrchol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn sylweddol o’r hyn sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn nogfen ymgynghorol Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru). Dylai fod gan y Gwasanaeth rôl gyflenwi ganolog a dylai gyflogi staff i weithio ar amrywiaeth o drefniadau mabwysiadu. Ni ddylai fod ‘yn eiddo i’r awdurdodau lleol’ fel y nodir yn y cynigion presennol. Dylai’r rôl arweiniol o fewn y Gwasanaeth fod yn uwch rôl annibynnol, yn adrodd i fwrdd amlasiantaethol, ac yn atebol yn y pen draw i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru.

  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Cofrestr Fabwysiadu Genedlaethol i Gymru a dylai pob darpar fabwysiadwr a phlentyn sydd â chynllun mabwysiadu gael eu rhoi ar y gofrestr ar unwaith fel eu bod ar gael i’w paru.

  • Dylai Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Llywodraeth y DU, ymchwilio i ddichonoldeb pennu bod yr awdurdod sy’n lleoli yn parhau’n gyfrifol am ddarparu cymorth ôl-fabwysiadu nes bydd y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed.

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.