Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn rhoi cwestiynau'r cyhoedd i'r Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 16/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn rhoi cwestiynau'r cyhoedd i'r Prif Weinidog

16 Gorffennaf 2013

Bydd un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi cwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd i'r Prif Weinidog mewn cyfarfod yn y Gogledd ar ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog wedi bod yn gofyn i bobl gyflwyno eu cwestiynau ynghylch prosiectau seilwaith mawr Gogledd Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar y rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd, yn ogystal â chynhyrchu ynni.

Dyma'r tro cyntaf i un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol ddefnyddio hashtag ar Twitter (#HIHPWC) i annog pobl i gymryd rhan mewn cyfarfod ffurfiol.

Caiff y cwestiynau eu gofyn, ynghyd â chwestiynau eraill gan Aelodau'r Pwyllgor, yn ystod y cyfarfod yn Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam am 9.45 ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran ac a gyflwynodd cwestiynau ar gyfer ein cyfarfod.

"Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn arf pwerus ar gyfer siarad â phobl ac i drafod syniadau gyda nhw, felly mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddefnyddio'r sianeli hyn i gynnwys y cyhoedd yn ein gwaith.

"Cafodd fy nghyd-Aelodau o'r Pwyllgor a minnau ein taro gan fanylder a dyfnder y diddordeb yn y maes penodol hwn gan bobl Cymru, ac rydym yn awyddus i glywed yr hyn sydd gan y Prif Weinidog i'w ddweud."

Daeth y cwestiynau a ddewiswyd gan nifer o bobl a sefydliadau ledled Cymru:

  • Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cymunedau yn cael manteision gan ddatblygiadau seilwaith (er enghraifft, drwy daliadau ariannol uniongyrchol, cymorth ar gyfer prosiectau bywyd gwyllt neu berchnogaeth o gynlluniau ynni adnewyddadwy yn y gymuned)?

  • Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltiadau trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd rhwng y gogledd a'r de?

  • Pam nad oes modd i Gymru gael ei grid cenedlaethol ynni ei hun, er mwyn i'r wlad fod yn hunan-gynhaliol o ran ynni?

  • Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mathau eraill o ynni adnewyddadwy fel dewis amgen i ynni gwynt - fel cynlluniau ynni'r llanw a chynlluniau hydro bach?

  • Beth yw'r etifeddiaeth tymor hir i Gymru gan y diwydiannau ynni gwynt ac ynni niwclear, gan gynnwys ôl-troed carbon 'gydol oes' y diwydiannau hyn (gan gynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu, gweithredu, datgomisiynu)?

Mae'r cyfarfod yn agored i'r cyhoedd a bydd sesiwn meic agored ar ddiwedd y trafodion ffurfiol i'r sawl sy'n bresennol ofyn cwestiynau neu roi sylwadau i'r Pwyllgor.

Dylai unrhyw un sydd am fynd i'r cyfarfod gysylltu â llinell archebu'r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.