Undebau’r amaethwyr i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid ar glwy’r traed a’r genau
Heddiw, bydd undebau’r amaethwyr yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad fel rhan o’i ymchwiliad i effaith ariannol clwy’r traed a’r genau.
Mae’r Pwyllgor yn ymchwilio i gostau’r achosion diweddar a’r effaith a gaiff ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Arwerthwyr Da Byw Cymru a Hybu Cig Cymru yn rhoi tystiolaeth i Aelodau mewn cyfarfod yn y Senedd yfory, dydd Iau Tachwedd 22, am 1.30pm.
Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Pwyllgor, : “Er ein bod ni’n bell o’r ardal lle y digwyddodd yr achosion, cafodd y cyfyngiadau ar symud anifeiliaid effaith yn gyffredinol ar farchnadoedd da byw Cymru ac yn sgil hynny ar y ffermwyr sy’n cynhyrchu’r anifeiliaid. ‘Rwy’n falch iawn fod undebau’r amaethwyr a’r cyrff eraill yn dod i’r Pwyllgor i roi tystiolaeth.”