Undebau’r amaethwyr i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid ar glwy’r traed a’r genau

Cyhoeddwyd 22/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Undebau’r amaethwyr i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid ar glwy’r traed a’r genau

Heddiw, bydd undebau’r amaethwyr yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad fel rhan o’i ymchwiliad i effaith ariannol clwy’r traed a’r genau.

Mae’r Pwyllgor yn ymchwilio i gostau’r achosion diweddar a’r effaith a gaiff ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Arwerthwyr Da Byw Cymru a Hybu Cig Cymru yn rhoi tystiolaeth i Aelodau mewn cyfarfod yn y Senedd yfory, dydd Iau Tachwedd 22, am 1.30pm.

Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Pwyllgor, : “Er ein bod ni’n bell o’r ardal lle y digwyddodd yr achosion, cafodd y cyfyngiadau ar symud anifeiliaid effaith yn gyffredinol ar farchnadoedd da byw Cymru ac yn sgil hynny ar y ffermwyr sy’n cynhyrchu’r anifeiliaid.  ‘Rwy’n falch iawn fod undebau’r amaethwyr a’r cyrff eraill yn dod i’r Pwyllgor i roi tystiolaeth.”

Mwy o wybodaeth am y Pwyllgor