Wythnos i fynd - Cyfrif y dyddiau cyn lansio Senedd Ieuenctid newydd Cymru

Cyhoeddwyd 24/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae proses ar y gorwel i sefydlu Senedd Ieuenctid newydd Cymru i adlewyrchu a chynrychioli lleisiau a barn pobl ifanc yng Nghymru.

Yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar ddydd Mercher, 23 Mai, cyhoeddodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd yr ymgyrch i gofrestru pleidleiswyr ar gyfer yr etholiad cyntaf yn dechrau ar ddydd Iau, 31 Mai.

Bydd 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Caiff 40 ohonynt eu hethol trwy system y Cyntaf i'r Felin, system bleidleisio electronig, ym mhob un o'r 40 etholaeth etholiadol yng Nghymru. Caiff 20 o'r 60 eu hethol gan sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli.

Gall pob person ifanc yng Nghymru, rhwng 11 a hyd at 18 oed, gymryd rhan trwy gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad ar-lein a fydd yn digwydd dros gyfnod o dair wythnos ym mis Tachwedd 2018.

Cynhelir cyfarfod cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Chwefror 2019.

Dywedodd Elin Jones AC:

“Fel cenedl sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gweithredu prosiect mor uchelgeisiol yn ddatblygiad sylweddol i Gymru, ac mae’n fraint i ni fel Senedd Genedlaethol, gyflawni’r ymrwymiad hwn.

“Nodai Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hawl plant a phobl ifanc i fynegi barn ac i’r farn honno gael ei hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar unrhyw fater sy’n effeithio arnynt. 

“Yng nghyd-destun ein gwaith fel deddfwrfa, mae sefydlu Senedd Ieuenctid yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau i bleidleiswyr heddiw a phleidleiswyr yfory, i bob dinesydd yng Nghymru - mae gan bob un ohonynt ran yn ein democratiaeth.”

Cytunodd Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu senedd ieuenctid ym mis Medi 2017 yn dilyn ymgynghoriad helaeth â mwy na 5,000 o bobl ifanc ledled Cymru.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hefyd wedi gweithio'n agos gyda grŵp llywio o sefydliadau ieuenctid sy'n rhoi arweiniad arbenigol ac, yn hanfodol, farn o safbwynt pobl ifanc a gyfrannodd wrth lywio Senedd Ieuenctid newydd Cymru.

Caiff yr ymgyrch i gofrestru pleidleiswyr ei lansio'n ffurfiol yn Eisteddfod yr Urdd ym Maes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd lle bydd mwy o fanylion ar gael am sut i gofrestru fel ymgeisydd neu fel sefydliad partner.

Bydd tîm allgymorth ac addysg ieuenctid y Cynulliad yn cynnal cyfres o weithdai, ymweliadau ag ysgolion a cholegau, sesiynau hyfforddi'r hyfforddwr ac yn darparu adnoddau i fudiadau a sefydliadau gynnal eu digwyddiadau eu hunain. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru.