Y cyfle cyntaf i bobl Cymru helpu i lunio cyfraith newydd

Cyhoeddwyd 28/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y cyfle cyntaf i bobl Cymru helpu i lunio cyfraith newydd

28 Medi 2011

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’r cyfle cyntaf i bobl Cymru helpu i lunio deddf Cynulliad newydd.

Yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd y prynhawn yma (27 Medi), nododd Rosemary Butler AC mai ar 19 Hydref y cynhelir y balot cyntaf yn y Pedwerydd Cynulliad i Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r Llywodraeth.

Mae nifer o gyfreithiau na chawsant eu cynnig gan y Llywodraeth wedi’u pasio eisoes drwy ddefnyddio’r balot hwn, gan gynnwys y Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion, y Mesur Caeau Chwarae a’r Mesur Diogelwch Tân Domestig.

"Bydd gan Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r Llywodraeth gyfle’n fuan i gyflwyno Bil am y tro cyntaf o dan bwerau deddfu newydd y Cynulliad,” meddai’r Llywydd, Rosemary Butler AC.

"Mae hefyd yn gyfle i bobl Cymru gymryd rhan yn y broses deddfu ac i leisio barn am y cyfreithiau yr hoffent eu gweld yn cael eu cyflwyno o dan y pynciau sydd wedi’u datganoli.

"Dros yr haf, cafodd yr Aelodau gyfle i ymchwilio i unrhyw Filiau yr hoffent eu cyflwyno gerbron y Cynulliad, ond mae digon o amser eto i chi gysylltu â’ch AC i roi’ch syniadau a’ch barn.”

Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn y balot, mae’n rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth benodol, gan gynnwys teitl arfaethedig y Bil a memorandwm esboniadol sy’n amlinellu amcanion polisi’r Bil a manylion am unrhyw gefnogaeth a gafwyd iddo.

Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd gynnal balot ar gyfer Biliau Aelodau ‘o bryd i’w gilydd’.

Os hoffech wybod pwy yw’r Aelod Cynulliad sy’n eich cynrychioli, a gweld eu manylion cyswllt, gallwch wneud hynny yma.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ddeddfu yma.