Y Cynulliad Cenedlaethol i groesawu cynhadledd fawr ar e-ddemocratiaeth

Cyhoeddwyd 10/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Cynulliad Cenedlaethol i groesawu cynhadledd fawr ar e-ddemocratiaeth

Bydd cynhadledd fawr ar e-ddemocratiaeth yn cael ei chroesawu gan y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos nesaf.

Mae’r gynhadledd yn cael ei threfnu gan Rwydwaith Llythrennedd y Cyfryngau, Cymru ac fe’i cynhelir yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, ddydd Llun 14 Ionawr. Partneriaeth o sefydliadau ac unigolion yw Rhwydwaith Llythrennedd y Cyfryngau, Cymru a gyllidir gan Ofcom a’i gefnogi gan NIACE Dysgu Cymru.  Nod Rhwydwaith Llythrennedd y Cyfryngau, Cymru yw dod â rhanddeiliaid ar draws Cymru at ei gilydd er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o fanteision llythrennedd y cyfryngau.  

Nod y gynhadledd yw annog trafodaeth ar ddatblygu strategaeth e-ddemocratiaeth yng nghyd-destun Cymru.  Ymysg y siaradwyr bydd yr Aelodau Cynulliad Leighton Andrews, John Griffiths, Peter Black, Alun Cairns, Alun Davies a Bethan Jenkins, yn ogystal â chynrychiolwyr o Ofcom, NIACE Dysgu Cymru, cyfryngau darlledu Cymru, Cymdeithas Hansard, Cyngor Sefydliadau Gwirfoddol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  

Bydd plant o Ysgol Greenhill ac Ysgol Thomas Picton yn Sir Benfro hefyd yn bresennol yn y gynhadledd a byddant yn cofnodi trafodion y diwrnod ar gyfer eu gorsaf radio eu hunain ar y rhyngrwyd. Byddant hefyd yn cynhyrchu stori ddigidol a gyhoeddir wedyn ar-lein.  

Dywedodd Karen Roberts, Cadeirydd Rhwydwaith Llythrennedd y Cyfryngau, Cymru: ‘Sefydlwyd y Rhwydwaith i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws Cymru ac mae’r gynhadledd hon yn enghraifft berffaith o gyflwyno, i ystod eang o sefydliadau a’r cyhoedd yn gyffredinol, bwysigrwydd llythrennedd yn y cyfryngau a’r manteision a ddaw yn sgil cyfranogi.’

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom Cymru: ‘Mewn cymdeithas lle mae’r gwasanaethau cyfathrebu’n dod at ei gilydd a llwyfannau newydd yn ymddangos, mae hin hanfodol bwysig nad yw dinasyddion ar eu colled oherwydd diffyg deall neu ddiffyg cyfle. Mae ymchwil Ofcom yn dangos bod rhai grwpiau mewn cymdeithas, e.e. yr henoed, y llai cyfoethog, a’r rhai sy’n dod o leiafrifoedd ethnig yn teimlo’n ddifreintiedig, ac felly ‘r ydyn ni’n hynod o falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n mabwysiadu polisi cynhwysol ac yn bwriadu ymateb, o’r dechrau un, i unrhyw anghydbwysedd.’  

Ychwanegodd Richard Spear, Cyfarwyddwr NIACE Dysgu Cymru: Yn sgil y datblygiadau ym maes technoleg gyfathrebu, mae NIACE Dysgu Cymru yn credu bod llythrennedd yn y cyfryngau yn cyflym ddod yr un mor bwysig â’r sgiliau traddodiadol mewn llythrennedd iaith, rhifedd a TGCh. Mae gallu cyrchu ystod eang o gyfryngau, eu dadansoddi ac ymateb iddynt yn hanfodol bwysig i ddinasyddion gweithredol yn y gymdeithas fodern. Dyna pam yr ydyn ni’n hynod falch o gael gweithio gydag Ofcom, y Cynulliad Cenedlaethol a phartneriaid eraill i hybu llythrennedd yn y cyfryngau ac annog mwy o oedolion i ddod yn llythrennog yn y maes.’